Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 48 Hours. Yn Saesneg - 3 darlith un awr yr wythnos |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 Hours. Seminarau. Yn Gymraeg - 5 seminar un awr bob semester |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr ar ddiwedd Semester 2 | 67% |
Asesiad Ailsefyll | Ail-eistedd yr elfen nas pasiwyd | |
Asesiad Semester | Traethawd asesiedig 2000 o eiriau yn Semester 2 | 33% |
Canlyniadau Dysgu
Disgwylir i fyfyrwyr ddodi fedru adnabod a chymhwyso'r gyfraith berthnasol er mwyn datrys problemau. Disgwylir hefyd iddynt gloriannu a beirniadu'r gyfraith, a bod yn ymwybodol o'r lle sydd i'r diwygio.
Lluniwyd y safbwynt dadansoddol yn arbennig i annog myfyrwyr i lunio dadl argyhoeddiadol ar sail y dystiolaeth berthnasol. Er mwyn deall yn llawn y modd y mae'r gyfraith droseddol yn gweithio mewn cymdeithas, rhaid i fyfyrwyr werthfawrogi datblygiad hanesyddol, sylfaen ddamcaniaethol, a natur goruwchgenedlaethol gynyddol y pwnc. Mae'r modiwl yn hybu'r holl sgiliau deallusol a sgiliau pwnc a nodwyd yng nghanlyniadau dysgu'r rhaglen.
Disgrifiad cryno
Pwnc sylfaen yw Cyfraith Troseddau, a rhaid ei astudio a llwyddo ynddo er mwyn cael eich eithrio o gam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Un yn unig o'r canghennau lawer o'r gyfraith y gellir eu hastudio yw'r Gyfraith Troseddau, ond gellid dweud mai dyma'r gangen fwyaf a'r un sy'n treiddio i'r rhan fwyaf o feysydd. Hynny yw, mae'r gyfraith troseddau yn cyffwrdd a phob maes arall yng nghyfraith Lloegr: mae'n treiddio i'r gyfraith fasnachol, cyfraith refeniw, cyfraith deuluol, cyfraith yr amgylchedd a llawer o feysydd eraill. Er enghraifft, mae Deddf Cwmniau 1985 yn creu mwy na 150 o wahanol droseddau. Byddwch yn dod o hyd i'r gyfraith troseddau hyd yn oed wrth astudio cyfraith ryngwladol gyhoeddus. Mae'n dilyn felly fod astudio'r egwyddorion cyffredinol sy'n sylfaen i'r gyfraith troseddau yn rhan bwysig o unrhyw addysg go iawn yn y gyfraith. Rhaid inni bwysleisio na fydd y cwrs yn ceisio ymdrin a phob trosedd, na hyd yn oed y rhan fwyaf o droseddau penodol yng nghyfraith Lloegr. Mae llawer gormod o droseddau o'r fath. Bydd y pwyslais ar yr egwyddorion sylfaenol. A ellir cael atebolrwydd troseddol heb brofi bai na bwriad troseddol? A ystyrir bod rhywun yn `bwriadu? canlyniad os oedd yn gwybod ei fod yn sgil-effaith anochel i'r ymddygiad bwriadus? A all anwybodaeth am y gyfraith fyth fod yn amddiffyniad? Beth petai rhywun yn mynd ati i gyflawni rhyw drosedd, ond yn rhoi'r gorau i'r syniad cyn ei chyflawni? Er bod y pwyslais ar egwyddorion cyffredinol, ni ellir dysgu'r rhain na'u deall heb gyfeirio at droseddau penodol, a bydd nifer sylweddol o'r troseddau hyn yn cael eu hystyried yn fanwl. Gellir defnyddio lladdiad (homicide) er enghraifft, i egluro ac esbonio amryw byd o egwyddorion. Gall lladd fod yn gyfreithlon neu'n anghyfreithlon; yn fwriadol neu'n ddamweiniol; yn rhagfwriadol neu'n ganlyniad i gythruddo sydyn. Gall y lleiddiad fod yn feddw neu'n sobr, neu yn wallgof; gall y dioddefwr farw ar unwaith, neu farw wedyn yn sgil esgeulustod meddygol. Mae yna reswm arall hefyd dros astudio dewis gweddol helaeth o droseddau. Mae angen i gyfreithiwr troseddau wybod er na ellir llunio un cyhuddiad ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, efallai y gellir llunio trosedd ychydig yn wahanol. Efallai y byddai cyhuddiad o fyrgleriaeth waethygedig yn llwyddo lle y byddai cyhuddiad o ladrad yn methu. Y gyfraith troseddau yw'r pwnc y mae myfyrwyr newydd yn y gyfraith yn dymuno ei astudio ran amlaf, ac rydym yn ffyddiog na fyddant yn cael eu siomi. Mae'n lliwgar ac yn frawychus mewn mannau, ac a gwedd ddynol iawn arni. Ond nid pwnc hawdd mohono. Mae'n amlygu i fyfyrwyr broblemau cymhleth dehongliad statudol, ac yn gofyn am lawer o waith astudio cyfraith achos - a llawer ohoni'n croesddweud ei hun ac yn ansicr. Rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i gwestiynu a beirniadu'r gyfraith, gan geisio ei deall ar yr un pryd.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gywir o amcanion ac egwyddorion sylfaenol cyfraith droseddol Lloegr, a gwybodaeth ymarferol o amrywiaeth gweddol eang o droseddau ac amddiffyniadau penodol.
Cynnwys
- Diffiniadau a gwahaniaethau hanfodol
- Swyddogaeth y Gyfraith Droseddau mewn cymdeithas
2.1 Actus Reus
- Camwaith neu anwaith
- Troseddau cyflwr amgylchiadau
- Troseddau ymddygiad a chanlyniad
- Achosiaeth
- Gwirfoddoldeb
- Gwahanol fathau o mens rea
- Troseddau atebolrwydd caeth
- Y bwriad
- Gwybodaeth neu gred
- Malais
- Byrbwylltra (gan wahaniaethu rhwng Cunningham a Caldwell)
- Yr ewyllys
- Camgymeriadau a mens rea
- Mathau o laddiad anghyfreithlon
- Achosiaeth
- Llofruddiaeth
- Mabanladdiad
- Dynladdiad dehongliadol
- Dynladdiad byrbwyll
- Lladd dan gythruddo
- Cyfrifoldeb lleiedig
- Achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus
- Ymosod a churo
- Ymosod sy'n achosi gwir niwed corfforol
- Clwyfo a niwed corfforol difrifol
- Ymosod ar gwnstabl ayb
- Troseddau treisgar eraill
- Trais
- Cyfathrach rywiol anghyfreithlon
- Llosgach
- Troseddau gwrywgydiol
- Ymosod yn anweddus
- Ysgogiad
- Y gyfraith gyffredin a chynllwynion statudol
- Ymgais
- Atebolrwydd dirprwyol a chorfforaethol
- Cynorthwyo, ategu, cynghori neu gaffael
- Mens rea y cyfranwyr
- Tynnu'n ol o gyfraniad
- Dioddefwyr fel affeithwyr
- Cyd-fenter
- Mabandod
- Salwch meddyliol/gwallgofrwydd
- Awtomatiaeth
- Meddwdod
- Hunanamddiffyn
- Gorfodaeth
- Rheidrwydd
- Lladrad
- Ysbeilio
- Byrgleriaeth
- Blacmel
- Trafod nwyddau wedi eu dwyn
- Mynd a chludiant heb ganiatad
- Cyfrifeg anwir
- Mynd ymaith heb dalu
- Cael eiddo trwy ddichell
- Cael mantais ariannol trwy ddichell
- Troseddau twyll eraill
- Difrod troseddol
Rhestr Ddarllen
Gweler LA15930
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4