Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 x Seminar 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Bydd rhaid i fyfyrwyr syn gorfod ail-sefyll y modiwl gymryd 1 arholiad 2 awr gwerth 100%. Bydd cyfle i ail-sefyll y modiwl hwn yn ystod y cyfnod arholiadau atodol ym mis Awst. Bydd rhaid i fyfyrwyr syn gorfod ail-sefyll y modiwl gymryd 1 arholiad 2 awr gwerth 100%. Bydd cyfle i ail-sefyll y modiwl hwn yn ystod y cyfnod arholiadau atodol ym mis Awst. | |
Asesiad Semester | Un traethawd 2,000 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Arddangos, trwy waith ysgrifenedig ac arholiad, wybodaeth o nodweddion canolog bywyd gwleidyddol yn y prif wladwriaethau Ewropeaidd
2. Dangos, trwy waith ysgrifenedig ac arholiad, ymwybyddiaeth o'r gwahanol systemau gwleidyddol ar draws y prif wladwriaethau Ewropeaidd
3 Ysgrifennu traethodau mewn cyd-destun academaidd
4. Defnyddio technegau cyfeirio priodol
5. Llunio llyfryddiaeth
6. Adnabod a defnyddio strategaethau darllen addas
Nod
Bydd y modiwl diwygiedig hwn yn un o chwe modiwl a gynigir gan yr Adran i fyfyrwyr israddedig blwyddyn gyntaf. Bydd y modiwl yn cynnwys llawer o'r deunydd cysyniadol a ddysgir yn y fersiwn gyfredol o GW10220 (Gwleidyddiaeth a Llywodraethiant) ond yn ceisio gwneud y deunydd yn fwy hygyrch trwy sylfaenu'r cysyniadau canolog o fewn cyd-destun nifer o'r prif wledydd Ewropeaidd.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn rhoi i fyfyrwyr israddedig y Flwyddyn Gyntaf gyflwyniad cymharol i wleidyddiaeth nifer o wladwriaethau Ewropeaidd pwysig (e.e. y Deyrnas Gyfunol, Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a Rwsia). Bydd y modiwl yn archwilio datblygiad hanesyddol pob gwladwriaeth; prif nodweddion eu cyfansoddiadau a'u systemau gwleidyddol; eu cyd-destun cymdeithasol ac economaidd; a phrif nodweddion y gystadleuaeth wleidyddol. Bydd y modiwl yn cloi gyda thrafodaeth ar oblygiadau datblygiad yr UE i'r gwladwriaethau hyn ac i Ewrop.
Cynnwys
Y Deyrnas Gyfunol
Ffrainc
Yr Almaen
Sbaen
Rwsia
Yr UE ac Integreiddio Ewropeaidd
Diweddglo
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i fynegi eu hunain yn gadarn. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r sgiliau hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r nifer o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf addas o gyfathrebu yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn eglur ac yn uniongyrchol ac yn gadarn yngl'n â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno'r myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. |
Datrys Problemau | Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at gyflwyniadau seminar hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu¿r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol. Trafod yn rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu¿r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun. |
Gwaith Tim | Bydd y seminarau yn cynnwys trafodaeth mewn grwp bychan lle bydd rhaid i fyfyrwyr drafod fel grwp y materion creiddiol sy'n gysylltiedig â phwnc y seminar. Mae trafodaethau a dadleuon fel hyn yn y dosbarth yn rhan hollbwysig o'r modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestru darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd a'u pynciau cyflwyno. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser a'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau. |
Sgiliau pwnc penodol | Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud â'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth |
Sgiliau ymchwil | Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau eu gwaith ar brosesydd geiriau. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we a thrwy gyfrwng ffynonellau gwybodaeth electronig (megis BIDS ac OCLC). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4