Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- cyfrannu`n effeithiol i waith byrfyfyr
- trefnu ei sesiwn personol i baratoi`r corff i weithio mewn sefyllfa ymarferol
- trefnu eu perfformiad eu hunain mewn grwpiau ac yn unigol
- cofnodi eu hymwneud a gwaith ymarferol yn effeithiol drwy ddogfennu`r prosesau a ddilynwyd
- mynegi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o `Safbwyntiau` Bogart a`u heffaith ar waith byrfyfyr ac ar berfformiad y grwp
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl yn cynnig archwiliad ymarferol o dechneg `Safbwyntiau` (`Viewpoints`) y gyfarwyddwraig Anne Bogart. Cyflwynir y `Safbwyntiau` hyn fel modelau ar gyfer cyflwyno rhai o brif sgiliau gwaith ymarferol yn y theatr, megis ymwybyddiaeth gorfforol, y gallu i greu gwaith yn fyrfyfyr a chyflwyno gwaith o flaen cynulleidfa.
Strwythurir sesiynau ymarferol yn 20 sesiwn o ddwy awr (felly dwy sesiwn dwy awr yn wythnosol) yn ystod Semester 2.
Nod
Nod yr Adran wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- archwilio perfformio ac ymddygiadau perfformiadol ym myd theatr sydd yn gysylltiedig a thraddodiadau a dylanwadau o Ewrop a thu hwnt
- cydnabod yr amryfal gyd-destunau cymdeithasol y mae perfformio yn cael ei amlygu ynddynt, ac archwilio`r cyfryw gyd-destunau
- archwilio perffromio ac ymddygiadau perfformiadol trwy ddulliau ymarferol
Cynnwys
1. Creu Ensemble (i)
2. Creu Ensemble (11)
3. Ymarferion i baratoi`r corff
4. Chwaraeon i baratoi`r corff: Boal, Barker, Burgess
`Safbwyntiau` Bogart:
5. Gofod - Cydberthynas Ofodol (i)
6. Gofod - Cydberthynas Ofodol (ii)
7. Gofod - Daearyddiaeth (i)
8. Gofod - Daearyddiaeth (ii)
9. Gofod - Siap
10. Gofod - Ystum
11. Gofod - Ystumiau `bob dydd`
Ystumiau mynegiannol
12. Gofod - Pensaerniaeth
13. Amser - Tempo (cylfymder)
14. Amser - Parhad
15. Amser - Ymateb Cinesthetig
16. Amser - Ailadrodd
17. Y Canol
18. Y Llais
19. Cyflwyniad i Waith Rhagbaratoadol a Chyfansoddi
20. Cyfansoddi
NODIADAU AR YR ASESIAD:
LLYFR NODIADAU
Fe fydd y llyfr nodiadau yn gydwerth a thraethawd 3,000 o eiriau. Strwythurir y llyfr nodiadau ar ffurf 20 dadansoddiad byr (heb fod yn fwy na 150 o eiriau yr un) yn olrhain gwaith yr 20 dosbarth ymarferol. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o`r technegau ymarferol a ddefynddiwyd yn y dosbarthiadau, yn ogystal a chrybwyll y drafodaeth ddiwylliannol y cyfeiriwyd ati yn ystod y dosbarthiadau.
CYFRANIAD AC YMRODDIAD YN Y DOSBARTHIADAU
Bydd aelodau staff yn asesu cyfraniad myfyrwyr wrth drafod a chyfrannu ar lafar yn y dosbarthiadau ymarferol. Rhan hanfodol o`r asesiad hwn fydd ystyriaeth o bresenoldeb a phrydlondeb y myfyrwyr, yn ogysta a`u hymroddiad yn y dosbarthiadau.