Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 8 awr x 10 wythnos |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ysgrifenedig 2 (5000 gair) Bydd yn rhaid ailsefyll pob elfen o'r asesiad a fethwyd os yw cyfartaledd y marc yn is na'r marc pasio gofynnol, sef 50%. Gosodir Teitl Newydd. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ysgrifenedig 1 (3500 gair) Bydd yn rhaid ailsefyll pob elfen o'r asesiad a fethwyd os yw cyfartaledd y marc yn is na'r marc pasio gofynnol, sef 50%. Gosodir Teitl Newydd. | |
Asesiad Semester | Aseiniad Ysgrifenedig 2 (5000 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniad ysgrifenedig 1A (2000 gair) ac 1B (1500 gair) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
1. Cysylltu theorïau ysgogiadol mewn modd beirniadol ag arferion ysgol ac ystafelloedd dosbarth drwy ddefnyddio enghreifftiau o¿u profiadau arsylwi a¿u harferion ym Mhrofiad Ysgol 1;
2. Gwerthuso mewn modd beirniadol y modd y mae disgyblion yn dysgu ac yn cynllunio¿n unol â hyn;
3. Trafod mewn modd beirniadol unrhyw agwedd ar eu pwnc a allai arwain at gamddealltwriaeth ymhlith disgyblion neu sy¿n anodd ei deall neu sy¿n ddadleuol;
4. Dadansoddi mewn modd beirniadol y modd y mae disgyblion yn dysgu drwy ddefnyddio enghreifftiau amrywiol o waith y disgyblion a aseswyd.
Cynnwys
Dyma¿r themâu ar gyfer y 10 wythnos (dros 2 semester) a byddant yn defnyddio enghreifftiau o adnoddau dysgu ac addysgu sy¿n berthnasol i ddysgu Saesneg.
1. Dealltwriaeth ynghylch anghenion dysgu amrywiol disgyblion
2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch Saesneg yng Nghyfnod Allweddol 3, 4 a 5.
3. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig
4. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch asesu allanol yng Nghyfnod Allweddol 3, 4 a 5, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a¿r Llwybrau Dysgu.
5. Y gallu i ddefnyddio TGCh yn effeithiol
6. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch strategaethau rheoli dosbarthiadau
7. Y gallu i gynllunio a pharatoi adnoddau ar gyfer gwersi effeithiol sy¿n heriol ac sy¿n berthnasol i bob disgybl
8. Y gallu i ddysgu gwersi sydd â strwythur, sy¿n amrywiol, sy¿n cymell y disgyblion ac sy¿n rhyngweithiol
9. Y gallu i wahaniaethu er mwyn bodloni anghenion pob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd ag AAA
10. Y gallu i fonitro, asesu a chofnodi cynnydd y disgyblion
Disgrifiad cryno
Fel rhan o¿u datblygiad proffesiynol parhaus, bydd gofyn i ddarpar athrawon adolygu¿n barhaus (drwy gynnal awdit) yr hyn y maent yn ei wybod a¿i ddeall am eu pwnc ynghyd â Sgiliau Allweddol. Yn ogystal, bydd gofyn iddynt ddiweddaru¿u Cynllun Gweithredu Datblygiad Proffesiynol yn unol â hyn. Drwy amrywiol weithdai rhyngweithiol, (fel unigolion, mewn parau neu mewn grwpiau), cyflwynir y darpar athrawon i ystod o strategaethau addysgu ac asesu.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Drwy weithdai, bydd gofyn i ddarpar athrawon rannu profiadau datblygiad proffesiynol a chânt eu hannog i fynegi¿u barn am faterion addysgiadol (ni chaiff hyn ei asesu). Bydd adolygu¿u datblygiad proffesiynol yn agwedd allweddol ar y modiwl hwn a chaiff ei asesu. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae cryfderau a blaenoriaethau darpar athrawon ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol yn elfen o¿r Portffolio Datblygiad Proffesiynol. Bydd cwblhau'r PDP yn galluogi myfyrwyr i adnabod yn well y dystiolaeth sy'n cadarnhau'u cyraeddiadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a'r blaenoriaethau o ran eu datblygiad proffesiynol, a bydd o gymorth iddynt gwblhau Adran A y Proffil Dechrau Gyrfa a fydd yn grynodeb o'u Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn ogystal â'u paratoi ar gyfer eu cyfnod Cyflwyno. |
Datrys Problemau | Bydd gofyn i ddarpar athrawon ddewis y strategaethau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol ar gyfer y testunau yn eu pwnc. Byddant hefyd yn ystyried y modd y dylid dysgu testunau dadleuol i ddisgyblion yn ogystal ag ymdrin â chamddealltwriaeth ymhlith disgyblion. |
Gwaith Tim | Bydd y darpar athrawon yn ymgymryd â thasgau gr¿p yn y modiwl hwn. Anogir rhannu arferion da a phrofiadau ysgol drwy drafodaethau gr¿p. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae¿r modiwl yn gofyn i ddarpar athrawon gynnal archwiliad o¿r hyn y maent yn ei wybod a¿i ddeall am eu pwnc, ynghyd â¿r Sgiliau Allweddol. Caiff y cynnydd ei fonitro drwy¿r Cynlluniau Gweithredu Datblygiad Proffesiynol (CGDP). |
Rhifedd | Ymdrinnir â'r sgil allweddol hwn mewn rhai pynciau megis gwyddoniaeth |
Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau sy¿n ymwneud â dysgu Saesneg i ddisgyblion. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i ddarpar athrawon ddod â gwybodaeth ynghyd sy¿n gysylltiedig â materion perthnasol wrth ddysgu eu pwnc opsiynol a gwerthuso¿r wybodaeth honno mewn modd beirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio¿r We at ddibenion ymchwil yn ogystal â theipio aseiniadau. Datblygu hunanhyder wrth ddefnyddio TGCh yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno gwersi. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7