Gweithdai Preswyl Arweinyddiaeth: (Ar gael i fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 4 a 5)

Mae’r Gweithdai Arweinyddiaeth yn cael eu harwain gan staff Ysgol Fusnes Aberystwyth. Maen nhw wedi eu dylunio i ddatblygu hyder a sgiliau arweinyddiaeth, cyflogadwyedd a gweithio fel tîm ac maen nhw’n enwedig yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio pwnc sydd yn gysylltiedig â Busnes yn y Brifysgol.

Mae’r gweithdai yn para am un ai un, dau neu dri diwrnod mewn ystafelloedd seminar a darlithfeydd o fewn y Brifysgol. Caiff nifer o dasgau gwahanol eu pennu i’r timau, megis cyfeiriannu, prosiect ‘Dragons’ Den’ a chyflwyno bwletin newyddion.

Caiff pob tîm eu mentora gan aelod o staff Ysgol Fusnes Aberystwyth, neu fyfyriwr llysgennad, ac fe ddarperir dadansoddiad ar ôl pob gweithgaredd er mwyn helpu myfyrwyr i adnabod a chryfhau eu hoff sgiliau arwain a’u hoff sgiliau gwaith tîm.

Mae modd trefnu gweithgareddau ychwanegol yn ôl gofynion eich grŵp, megis taith o amgylch Prifysgol Aberystwyth, mynediad at yr adnoddau chwaraeon ac adloniant gyda’r nos yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Does dim cost am y gweithdy ei hun ac fe gynigir llety am ddim i ddau aelod o staff yn ogystal â chinio bwffe yn ystod y gweithdy.