Digwyddiadau Nadolig yr Hen Goleg

NadoligTrefnir y digwyddiadau hyn er mwyn cryfhau’r cysylltiad rhwng Staff y Brifysgol, y gymuned leol a phartneriaid allanol trwy ddod ynghyd yn anffurfiol i ddathlu blwyddyn o lwyddiannau, cyraeddiadau a’r Nadolig. Cynhelir y digwyddiadau fel arfer yn yr Hen Goleg yng nghanol tref Aberystwyth gan ei fod yn adeilad eiconig yn Aberystwyth ac yn adeilad y gellir gwneud y mwyaf ohono ar gyfer y math hwn o ddigwyddiad.

Mae pob un o’r digwyddiadau hyn yn cynnig manteision gwahanol, yn ogystal â rhoi’r cyfle i bawb ddod at ei gilydd ar gyfer y Nadolig.

Diolch i Staff gyda Mins Pei a Gwin Brwd

Cyfle i ddiolch i staff sydd wedi rhagori yn ystod y flwyddyn. Enwebir aelodau’r staff gan Gyfarwyddwyr a Rheolwyr Athrofeydd, Penaethiaid Adrannau neu aelodau’r Bwrdd Gweithredol. Mae’n cynnwys dewis o fins peis a gwin brwd.

Parti Nadolig y Dref

Mae’r digwyddiad hwn yn helpu i gryfhau’r berthynas rhwng y gymuned leol a’r Brifysgol drwy ddathliad anffurfiol. Mae’n cynnwys dewis o fwydydd, cerddoriaeth Nadoligaidd, addurniadau a Siôn Corn ar gyfer y genhedlaeth iau. Mae’n gyfle hefyd i godi ymwybyddiaeth o Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor ac yn cynnwys nifer o bobl sy’n codi arian.

Parti Nadolig Pwysigion Lleol

Yn dilyn y parti ar gyfer y gymuned leol, mae Swyddfa’r Is-Ganghellor yn cynnal derbyniad ar gyfer pwysigion lleol fel ffordd o ddiolch i’r bobl leol sydd wedi cefnogi’r Brifysgol, Aberystwyth, Ceredigion neu Gymru mewn rhyw fodd.