Grwpiau Ysgolion

Diwrnodau Agored – gallwn helpu gyda chostau teithio eich grŵp…

Rydym yn deall eich bod yn awyddus i’ch disgyblion ddod o hyd i’r brifysgol orau i’w helpu i wireddu eu huchelgais. Rydym hefyd yn gwybod ei bod hi weithiau’n anodd cyfiawnhau costau dod â grŵp o fyfyrwyr i ymweld â phrifysgolion y tu allan i’ch ardal chi.

I’ch helpu i ymweld â ni, rydym yn cynnig hyd at £100 i gyfrannu at eich costau teithio.

Ac er mwyn diolch i chi ac unrhyw athrawon eraill sy’n ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored, byddwn hefyd yn darparu cinio canol dydd yn rhad ac am ddim.

Gallwch fod yn hollol hyderus y bydd eich disgyblion yn cael y gofal gorau ar eu hymweliad, gan roi cyfle i chi weld y Brifysgol a’r ardal leol. Bydd ein ‘llysgenhadon’ sydd yn fyfyrwyr presennol ac aelodau o’r staff wrth law i sicrhau bod eich disgyblion yn gwybod beth sy’n digwydd, lle y dylent fod, a sut i gael y gorau o’r diwrnod. Bydd hyn hefyd yn gyfle gwych i’ch disgyblion ofyn i’n myfyrwyr ni am eu profiadau a chael gwybod am fywyd y brifysgol yn uniongyrchol gan y rhai sy’n astudio yma.

I gofrestru lle ar gyfer eich Grŵp Ysgol, cysylltwch e-bost: diwrnodagored@aber.ac.uk