Sut mae deall gofynion mynediad?

myfyrwyr yn sefyll arholiad

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym ni’n amlinellu ein gofynion mynediad ar bob cwrs ar-lein ac yn ein prosbectws.

Y rheswm pam fod gennym ofynion mynediad ar ein cwrs yw er mwyn sicrhau bod gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth iawn i gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Mae ein gofynion mynediad yn amrywio’n eang gan ddibynnu ar y pwnc a/neu’r cwrs penodol. Fel prifysgol, mae gennym bolisi cynhwysol sy’n cydnabod amrywiaeth eang o gymwysterau a graddau arholiad Safon Uwch a/neu gymwysterau ar lefel gyfatebol.

Gweld Cyrsiau

Os ydych chi’n astudio am gyfuniad o gymwysterau sydd wedi’u cynnwys yn nhariff UCAS, byddwn ni’n gwneud cynnig o bwyntiau tariff UCAS i chi. Mae’r rhestr isod yn nodi’r cymwysterau rydym ni’n eu derbyn:

  • Safon Uwch
  • Cymwysterau lefel Uwchgyfrannol
  • Bagloriaeth Cymru
  • Y Fagloriaeth Ryngwladol
  • Y Fagloriaeth Ewropeaidd
  • Cymwysterau Galwedigaethol (Cymwysterau Cenedlaethol BTEC, Diplomâu Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrifau BTEC. Caiff cymwysterau proffesiynol cydnabyddedig; eraill hefyd eu hystyried o ddifrif e.e. Sefydliad Startredig y Bancwyr, Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol)
  • HND/ Gradd Sylfaen
  • Cymhwyster Mynediad.

Os hoffech ragor o fanylion ar y gofynion mynediad, cysylltwch â’n Tîm Derbyn Israddedig.