Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Buddion ychwanegol am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg!

Yn ogystal â'n Hysgoloriaethau Astudio drwy'r Gymraeg, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth o wobrau i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio'n rhannol, neu'n gyfan gwbl trwy'r Gymraeg.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr astudio yn y Gymraeg, ac mae ein Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg yn gweithio'n agos gyda'r Coleg i gefnogi a hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg.