Beth yw UCAS Extra?

Mae UCAS Extra yn rhedeg rhwng Chwefror 25ain a Gorffennaf 4ydd.

Gyfle i chi wneud cais ar gyfer prifysgol - yn cynnwys Aberystwyth - os ydych chi wedi defnyddio pob un o'r 5 dewis ond heb dderbyn yr un cynnig.

Os penderfynwch wrthod unrhyw gynigion yn y dyfodol gallwch wneud cais eto drwy Extra.

Os na fyddwch yn derbyn cynigion, hyd yn oed oddi wrth eich dewisiadau newydd, gallwch barhau i wneud cais drwy Extra tan y byddwch yn gwneud hynny, neu hyd at Orffennaf 4ydd.

Sut i wneud cais:

 

  1. Defnyddiwch Offeryn Chwilio UCAS i ddod o hyd i’r cwrs a ddymunwch a chysylltu â’r Brifysgol i weld a fydd yn eich ystyried
  2. Gwnewch gais am y cwrs drwy ychwanegu manylion yn UCAS Hub
  3. Bydd eich cais yn cael ei ystyried gan y Brifysgol
  4. Os byddwch yn derbyn cynnig, ymatebwch iddo gan ddefnyddio UCAS Hub drwy ei dderbyn neu ei wrthod, yn amodol ar fodloni unrhyw ofynion

 

Gwyliwch ein fideo “UCAS mewn 4 cam hawdd” neu cysylltwch â Derbyn Israddedigion am ragor o wybodaeth.