Diwrnod Canlyniadau a Chlirio

Mae’r diwrnod y byddwch yn casglu eich canlyniadau arholiad yma o’r diwedd.

Cymysgfa hafal o gyffro a nerfau.

Llongyfarchiadau mawr os byddwch yn cael y canlyniadau yr oeddech yn eu dymuno ac os na byddwch chi, peidiwch â mynd i banig, gan fod digon o ddewisiadau ar gael o hyd drwy’r drefn Glirio.

Diwrnod Canlyniadau hyd at Glirio:

  1. Mewngofnodwch i UCAS Hub er mwyn cadarnhau statws eich dewisiadau Cadarn ac Yswiriant
  2. Os ydych wedi cael eich derbyn, ni fydd yn rhaid i chi wneud dim, gan y bydd eich prifysgol yn cysylltu â chi
  3. Os ydych wedi cael eich gwrthod gan y ddau ddewis – peidiwch â phoeni – gan y byddwch yn cael eich trosglwyddo’n awtomatig i’r drefn Glirio
  4. Yn y drefn Glirio, yn gyntaf, gwnewch yn siŵr fod eich manylion yn gywir
  5. Yna, gallwch ddechrau cysylltu â phrifysgolion eraill i weld a oes lleoedd ar gael ganddynt – yn ddelfrydol, bydd llunio rhestr fer ymlaen llaw o gymorth ar yr adeg yma
  6. Edrychwch ar wefannau prifysgolion a gwefan UCAS ar gyfer y cyrsiau sydd ar gael
  7. Ffoniwch brifysgolion yn uniongyrchol gan mai dyma’r ffordd gyflymaf o gael gwybodaeth ac, os byddwch yn gymwys, o dderbyn cynnig ar lafar
  8. Ar ôl y cynnig ar lafar, byddwch yn derbyn gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y brifysgol yn y camau nesaf, gan gynnwys diweddaru eich dewisiadau yn UCAS Hub