Paratoi ar gyfer Prifysgol

myfyriwr yn symyd i fewn i lety'r Brifysgol: myfyriwr a'i rieni

Mae llawer o bethau i’w hystyried cyn i chi fynd i’r brifysgol, ac er mor gyffrous yw bod yn annibynnol a mwynhau’r rhyddid newydd, bydd lefel newydd o gyfrifoldeb yn ogystal.

Y newyddion da yw y bydd llawer o gyd-fyfyrwyr yn yr un cwch â chi.

I’ch helpu â’ch paratoadau, mae’n werth i chi nodi’r awgrymiadau isod:

  1. Cynllunio beth i’w bacio: bydd gan y rhan fwyaf o neuaddau prifysgol, yn enwedig yn yr ardaloedd cyffredin (e.e. ceginau) beiriannau modern fel poptai meicro-don, tostwyr, tegellau, a.y.y.b. Gall hyn fod yn wahanol mewn tai preifat. Felly, canolbwyntiwch yn fwy ar yr eitemau canlynol: dillad gwely, ystafell wely, dillad, golch, pethau ymolchi, pethau trydanol, pethau coginio, deunyddiau ysgrifennu, dogfennau a bwyd
  2. Agor cyfrif myfyriwr newydd: ystyriwch agor cyfrif banc i fyfyrwyr newydd, ar gyfer eich arian, yn enwedig am eu bod weithiau’n cynnig cyfleusterau gor-ddrafft hael 0% am ddim a chymhelliant penodol i ddenu myfyrwyr fel cerdyn UCM Extra neu gerdyn rheilffordd ar gyfer pobl ifainc
  3. Deunyddiau cwrs: cewch weld pa ddeunyddiau astudio fydd eu hangen arnoch yn ystod wythnosau cyntaf eich cwrs, yna manteisiwch ar lyfrgell y brifysgol, adnoddau electronig a gwerthiannau llyfrau ail-law – i arbed costau
  4. Ymarfer a pherffeithio prydau: er mor ddeniadol fydd byw ar fwyd têcawê, gall dysgu ambell rysáit newydd eich cadw’n iach a chadw costau bwyd yn isel. Os nad ydych yn mwynhau coginio, trefnwch gyda’ch cydletywyr eich bod yn cymryd tro i goginio, ac efallai na fydd yn rhaid i chi goginio mwy nag un pryd mawr bob wythnos!
  5. Dysgu am filiau: ar gyfer neuaddau prifysgol, bydd y biliau wedi’u cynnwys yn eich costau llety, ond ar gyfer llety preifat bydd yn rhaid i chi fynd i’r afael â biliau ar gyfer cyfleusterau (e.e. nwy, dŵr, trydan), y we, trwyddedu’r teledu, a.y.y.b., sydd fel arfer ar ben y rhent
  6. Hanfodion myfyrwyr: gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cerdyn UCM Extra, cerdyn teithio (e.e. cerdyn rheilffordd ar gyfer pobl ifainc) ac yswiriant cynnwys. Mae’r rhain yn ffyrdd gwych o arbed ar deithio, bwyta allan, adloniant, technoleg a llawer mwy – ac i sicrhau bod eich eiddo personol yn cael ei amddiffyn
  7. Ystyried swydd ar gyfer myfyrwyr: gall swydd olygu incwm gwerthfawr yn ogystal ag edrych yn dda ar eich CV. Mae ystod o gyfleoedd am waith rhan-amser yn y Brifysgol ac yn nhref Aberystwyth, gydag oriau hyblyg i gyd-fynd â’ch astudiaethau

Ambell awgrym yn unig sydd yma i’ch helpu i baratoi ar gyfer y brifysgol. Neilltuwch amser i gynllunio.

 

Os oes gennych ymholiadau pellach, cysylltwch ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth am gyngor.