Cefnogaeth o safbwynt Gofal Plant

Talebau Gofal Plant

Mae PrifysgolAberystwyth yn gweithredu cynllun talebau gofal plant a fydd yn eich helpu i arbed arian o safbwynt cost gofal plant.

Am ragor o fanylion cysylltwch â'r Tim gweithrefol AD (am fwy o wybodaeth, a wnewch chi ymweld â wefan Tim Adnoddau Dynol).

Meithrinfa

Mae sawl meithrinfa yn Aberystwyth yn ogystal â gofalwyr cofrestredig. Os hoffech rhagor o wybodaeth ewch i Wasanaeth Gwybodaeth Ceredigion Arlein (CIS) Chwilio Gofal Plant.

Cyfleusterau ar gyfer Bwydo ar y fron, Tynnu llaeth a Bwydo o’r botel

Mae campysau'r Brifysgol yn gwbl gyfeillgar i fwydo ar y fron ac nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran bwydo o’r botel neu fwydo ar y fron. Rydym yn deall y gallai fod yn well gan rieni weithiau gael man preifat, tawel a diogel i fwydo’u baban (o’r botel neu ar y fron) neu i dynnu llaeth.

Mae gennym ystafelloedd pwrpasol ar gyfer bwydo ar y fron/tynnu llaeth i gynorthwyo staff a myfyrwyr sy’n bwydo ar y fron, neu i’w defnyddio gan gydweithwyr beichiog sydd angen man preifat i orffwys. Mae’r cyfleusterau hyn yn agored i’r holl fyfyrwyr a staff.

Yr ystafelloedd a’u lleoliadau:

  • Ystafell i Deuluoedd, Undeb y Myfyrwyr 
    Mae’r ystafell hon yn Adeilad Undeb y Myfyrwyr – os hoffech ei defnyddio siaradwch â’r tîm wrth y dderbynfa; does dim angen archebu ymlaen llaw. 
    Mae’r ystafell breifat hon yn cynnwys cadair esmwyth a soffa, sinc a chyfleusterau ymolchi preifat â chownter, ffynhonnell olau naturiol a socedi trydan. Mae’r gegin gerllaw yn cynnwys microdon, a gellir defnyddio’r oergell wrth y dderbynfa i gadw llaeth yn ddiogel.
  • Ystafell 8, Canolfan Uwchraddedig, Adeilad Llandinam
    Mae’r ystafell hon yn y Ganolfan Uwchraddedig. Gall staff a myfyrwyr ddefnyddio eu CerdynAber i gael mynediad i’r ystafell trwy anfon e-bost at sitesecurity@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 622649.

Unwaith y bydd gennych fynediad ar eich CerdynAber bydd modd i chi ddefnyddio’r ystafell pryd bynnag y byddwch ei angen. Mae’r ystafell breifat yn cynnwys cadair esmwyth a soffa, bwrdd coffi, digonedd o olau naturiol a socedi trydan. Mae cegin gerllaw sy’n cynnwys sinc a chyfleusterau ymolchi a chownter, microdon, ac oergell i gadw llaeth yn ddiogel.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

 

 

Gweithio’n Hyblyg

Mae gan PA amrywiaeth o bolisïau i alluogi aelodau o staff i fwynhau gwell cydbwysedd rhwng anghenion gwaith ac anghenion personol, e.e. ac amrywiaeth o bolisïau Absenoldeb, e.e. , , a’r Polisi Absenoldeb Arbennig. Mae’r polisïau hyn a’r ffurflenni ar eu cyfer ar gael ar y tudalennau Telerau ac Amodau ar y wefan AD.