Cefnogaeth yn y Gwaith

Mentora/Hyfforddi

Gan fod y Brifysgol yn gyflogwr mawr ac amrywiol, gall gynnig cyfleoedd gwych i fanteisio ar gefnogaeth drwy gyfrwng mentora a hyfforddi. Beth am gysylltu ag aelod o’r tîm AD i drafod eich anghenion penodol ac i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael?

Am ragor o fanylion cysylltwch â equality@aber.ac.uk 

Cynllun Mentora Cymraeg

Os ydych yn dysgu Cymraeg, neu wedi dysgu Cymraeg yn y gorffennol, a bod arnoch eisiau cyfle i ymarfer yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu gyda siaradwr Cymraeg rhugl ar sail un-i-un anffurfiol, mae Cynllun Mentora Dysgwyr y Brifysgol ar gael i bob aelod o staff sy’n dysgu Cymraeg (boed chi’n mynd i wersi ar hyn o bryd ai peidio) a siaradwyr Cymraeg.

Am ragor o fanylion cysylltwch y Ganolfan Gwasanaethau'r Cymraeg ar canolfangymraeg@aber.ac.uk.

Cwnsela

Mae’r Brifysgol yn cynniggwasanaethau cwnsela allanol sy’n cynnig ffordd gwbl gyfrinachol i staff gael gafael ar gefnogaeth ar amrywiaeth o faterion. Gall y sesiynau hyn gynorthwyo unigolion i archwilio problemau neu rwystrau a rhoi cefnogaeth i ganfod ffyrdd o newid ac i daflu goleuni ar y mater. Nod y gwasanaeth yw trefnu cyfarfod cychwynnol â chwnselydd er mwyn asesu eich anghenion fel unigolyn. Os bydd cwnsela’n cael ei argymell, trefnir rhagor o apwyntiadau. Bydd yr adran AD yn cyfeirio pobl yn gwbl gyfrinachol.

Cefnogi Staff sy’n Cefnogi Myfyrwyr mewn Argyfwng

Mae’n bosib bydd staff yr adrannau academaidd yn ogystal a’r adrannau gwasanaethau yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr sydd mewn argyfwng lles personol, emosiynol neu feddyliol. Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod cael cysylltiad gyda rhywun sydd mewn sefyllfa ofidus yn gallu creu straen ar staff. Gall hyn arwain nid yn unig at ansicrwydd ynghylch sut i ymateb, ond hefyd at deimlo’n gyfrifol, yn ddiymadferth, yn ofnus, rhwystredig neu’n flin. Mae gan y Brifysgol, felly, strategaeth sy’n mynd i’r afael ag anghenion staff wrth iddynt roi cefnogaeth i fyfyrwyr sydd mewn argyfwng. 

 

Cyfryngu

Mae’r Brifysgol yn cynnig cyfle i unrhyw aelod o’r staff sy’n profi gwrthdaro neu anghydfod o unrhyw fath yn y Brifysgol i gymryd rhan mewn deialog adeiladol a chyfrinachol gyda chefnogaeth aelod o’r tîm cyfryngu. Mae’r tîm yn cynnwys aelodau o’r staff o bob rhan o’r Brifysgol, sydd wedi derbyn hyfforddiant gan ACAS ar Gyfryngu Mewnol yn y Gweithle. Mae’r sesiynau yn wirfoddol ac yn gwbl gyfrinachol.

Am fanylion pellach cysylltwch â’r Cyfryngwr a’r Cydlynydd Cyfryngu, Graham Lewis ar estyniad 1802 (01970 621802) neu mediation@aber.ac.uk.

Cynllun Cydraddoldeb

Nod y Cynllun Cydraddoldeb yw dangos bod cydraddoldeb ac amrywioldeb wrth graidd amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle mae urddas, parch a chydweithredu yn rhan hanfodol o’n holl weithgareddau, ynghyd â chefnogi cyfleoedd i bawb gyflawni eu potensial i’r eithaf. Mae’r cynllun yn cynnwys hil, anabledd a rhywedd ac yn ymgorffori oed, crefydd/cred a chyfeiriadedd rhywiol. Am ragor o fanylion cysylltwch ag equality@aber.ac.uk.

Polisïau Urddas a Pharch yn y Gweithle ac Iechyd a Lles

Datblygwyd y polisïau hyn ar y cyd â’n Hundebau Llafur cydnabyddedig er mwyn sefydlu safon a chod ymddygiad cytûn i bawb yn y Brifysgol fel gweithle. Cynlluniwyd y i alluogi unigolion i sylweddoli beth yw ymddygiad negyddol ac i ymdrin â’r sefyllfa yn adeiladol. Yn yr un modd, datblygwyd y i ganfod materion a allai effeithio ar les staff yn y gweithle (gan gynnwys straen, cydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith, maeth ac ymarfer) ac i lunio atebion posibl i’r materion hyn.