Telerau ac Amodau

  1. Mae unrhyw fyfyriwr israddedig llawn-amser yn gymwys i dderbyn Ysgoloriaeth Astudio Cyfrwng Cymraeg os ydynt yn bodloni’r meini prawf ynghyd â'r nifer o gredydau a astudir trwy gyfrwng y Gymraeg, yn hytrach na thrwy’r Saesneg, pan yn bosibl.
    Edrychwch ar eich dewisiadau o fodiwlau ar eich cofnod myfyriwr i weld faint o gredydau cyfrwng Cymraeg rydych chi wedi cofrestru arnynt.
  2. Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu hadnabod yn awtomatig, yn unol â’u cynllun gradd a’u dewisofodiwlau; nid oes rhaid ymgeisio am yr ysgoloriaethau hyn.
  3. Mae pob cynllun gradd israddedig amser-llawn yn gymwys i’w hystyried ac eithrio cyrsiau a gynigir yn unig gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Yn achos cynlluniau cyfun neu gynlluniau is bwnc : prif bwnc a gynigir gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, bydd y cwrs yn berthnasol pan fydd y credydau cyfrwng Cymraeg wedi’u derbyn gan y pwnc ‘arall’, h.y. y maes pwnc nad yw’n cael ei ddarparu gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Bydd modiwlau a gyngir gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cael eu cynnwys fel rhai cymwys ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio cynllun gradd mewn adran arall.
    Er enghraifft:
    • I fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gynllun gradd GQ15 Cymraeg a Mathemateg, bydd rhaid i’r holl gredydau cymwys ddod o’r elfen Fathemateg yn hytrach na’r Gymraeg.
    • I fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gynllun gradd C100 Bioleg, bydd yr holl gredydau cyfrwng Cymraeg yn cael eu hystyried, gan gynnwys modiwlau a gynigir gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
  4. Bydd taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i gyfrif banc deiliad yr ysgoloriaeth ar ddechrau mis Mawrth bob blwyddyn tra bydd y deiliad yn dal yr ysgoloriaeth. Bydd cymhwysedd pob myfyriwr ar gyfer yr ysgoloriaeth yn cael ei ail-asesu yn flynyddol.
  5. Os nad yw myfyriwr yn cwblhau’n dderbyniol y credydau cyfrwng Cymraeg angenrheidiol neu yn newid i fodiwl anghymwys ar ôl i’r taliad gael ei wneud, bydd gofyn iddynt ad-dalu’r swm a dderbyniwyd.
  6. Mae’r uchod yn berthnasol i flwyddyn academaidd 2023/24; ni fydd dyfarniadau’n cael eu hôl-ddyddio.
  7. Ni wneir taliadau i fyfyrwyr cyfnewid, ar gyfer blynyddoedd a ailadroddir, blynyddoedd profiad gwaith, blynyddoedd mewn diwydiant, blynyddoedd tramor ayb.