Gofynion Adrannol

Addysg ac Astudiaethau Plentyndod

Mae’r papur arholiad yn addas ar gyfer ymgeiswyr sy’n astudio ar gyfer cymhwyster Addysg neu Blentyndod a’r rheiny sy’n ymddiddori yn y pwnc. Er bod
ymgeiswyr i’r Adran yn cael eu hannog i ystyried dewis y papur hwn, mae unrhyw gyfuniad o bynciau yn dderbyniol.

Astudiaethau Gwybodaeth

Bydd y papur yn cynnwys cwestiynau sy'n canolbwyntio ar bob agwedd ar astudiaethau gwybodaeth, gan gynnwys rôl ac effaith gwybodaeth ar gymdeithas, yn enwedig effaith y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol a'r byd digidol, astudiaethau llyfrgell ac archif, treftadaeth ddiwylliannol, trefnu a rheoli gwybodaeth. Ni ddisgwylir unrhyw wybodaeth arbenigol na thechnegol ond bydd gallu dangos ymgysylltiad â materion cyfoes, yn enwedig lle mae gwybodaeth yn cael effaith – e.e. bydd 'newyddion ffug', sensoriaeth, preifatrwydd, cyfryngau electronig, yn fanteisiol.

Theatr, Ffilm a Theledu

Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer cwrs sengl neu gydanrhydedd mewn Drama ac Astudiaethau Theatr sefyll y papur Drama ac Astudiaethau Theatr ar gyfer un o’u dewisiadau. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer cwrs sengl neu gydanrhydedd mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu/.

Celf

Rhaid i ymgeiswyr i gynlluniau gradd sy’n cynnwys Celfyddyd Gain gyflwyno Portffolio o'u gwaith celf fel un o'u Harholiadau Mynediad.

Rhaid i ymgeiswyr i gynlluniau gradd sy’n cynnwys Hanes Celf gymryd y papur Hanes Celf ar y cyd ag unrhyw bwnc arall yn y dyniaethau.

Rhaid i ymgeiswyr sydd â Chelf Gain a Hanes Celf yn eu cynllun gradd (er enghraifft BA Celfyddyd Gain / Hanes Celf History) gyflwyno'r portffolio Celf Gain a'r papur Hanes Celf.  

Yn yr un modd, rhaid i ymgeiswyr i gynlluniau gradd sy'n cynnwys Ffotograffiaeth cyflwyno portffolio o'u gwaith ffotograffig.

Sylwer mai dim ond UN portffolio y gellir ei gyflwyno ar gyfer y gystadleuaeth Arholiadau Mynediad.

Cyfrifiadureg

Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am gwrs sy’n cynnwys Cyfrifiadureg sefyll o leiaf un o’r papurau Cyfrifiadureg neu Dechnoleg Gwybodaeth.

Cymdeithaseg

Disgwylir i ymgeiswyr Cymdeithaseg sefyll y papur Cymdeithaseg ac unrhyw bapur arall o'u dewis. Byddem yn argymell ystyried y papurau daearyddiaeth ddynol a seicoleg.

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer Daearyddiaeth, Cymdeithaseg, Gwyddor Daear neu'r Amgylchedd sefyll o leiaf un papur a chynigir gan yr adran, yn cynnwys: Daearyddiaeth Ffisegol, Daearyddiaeth Ddynol, Daeareg, Gwyddor yr Amgylchedd, Cymdeithaseg.

Ffiseg

Rhaid i ymgeiswyr ysgoloriaeth sy’n bwriadu astudio Ffiseg sefyll y papur Ffiseg ar gyfer un o’u dewisiadau. Os yw ymgeiswyr yn astudio Mathemateg Safon Uwch gellir dewis unrhyw bwnc arall ar gyfer yr ail bapur. Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr nad ydynt yn astudio Mathemateg Safon Uwch ddewis Mathemateg ar gyfer yr ail bapur.  Os yw ymgeisydd yn gwneud cais am y radd sylfaen mewn Ffiseg, efallai na fydd yr amodau hyn yn berthnasol.

Ffotograffiaeth

Os ydych yn gwneud cais i gynllun gradd gan gynnwys Ffotograffiaeth, rhaid i chi gyflwyno portffolio o'ch gweithiau ffotograffig wreiddiol fel un o'ch Arholiadau Mynediad. Rydym yn chwilio am waith sy'n dangos amrywiaeth o gyfryngau, technegau a phynciau, dawn gref ar gyfer gwaith arsylwadol, a diddordeb ehangach mewn ffotograffiaeth drwy astudio ffotograffwyr hanesyddol a chyfoes.

Dylid cyflwyno ffeil PŵerBwynt o hyd at 20 o'ch gweithiau ffotograffig gorau hunanddewisedig i’r Artho Catrin Webster caw117@aber.ac.uk neu artschool@aber.ac.uk , gyda 'Portffolio Ffotograffiaeth Ysgoloriaeth Mynediad’ wedi'i farcio'n glir, ac yn cynnwys eich enw llawn a rhif UCAS. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 2 Chwefror 2024 ac ni dderbynnir cyflwyniadau hwyr. Gellir cyflwyno drwy atodiad e-bost, neu ar-lein drwy Dropbox, WeTransfer neu gymhwyster cyfatebol, neu eu lanlwytho fel arall ar dudalen we neu Flog personol.

Sylwer mai dim ond UN portffolio y gellir ei gyflwyno ar gyfer y gystadleuaeth Arholiadau Mynediad.

Cysylltwch â'r Ysgol Gelf gydag unrhyw ymholiadau: 01970 622460, artschool@aber.ac.uk.

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Gofynnir i ymgeiswyr i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol sefyll o leiaf un o’r papurau a gynigiwn: Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Er bod ymgeiswyr yn cael eu hannog i ystyried sefyll y ddau bapur, gellir dewis sefyll un o’r papurau hyn ac unrhyw bwnc arall.

Gwyddorau Bywyd

Dylai ymgeiswyr ddewis o leiaf un papur arholiad sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r cwrs y maen nhw’n gwneud cais ar ei gyfer. Os yw ymgeiswyr yn ansicr ynghylch eu dewisiadau, gallant gysylltu â thîm derbyniadau'r Adran Gwyddorau Bywyd ar ibtstaff@aber.ac.uk am gyfarwyddyd.

Mae cynnwys papurau Bioleg 1 a Bioleg 2 yn seiliedig ar faes llafur Bioleg safon uwch.

Hanes a Hanes Cymru

Gofynnir i ymgeiswyr i’r Adran Hanes a Hanes Cymru sefyll o leiaf un o’r papurau a gynigiwn: Hanes – Ynysoedd Prydain a Hanes – Y Byd. Er bod ymgeiswyr yn cael eu hannog i ystyried sefyll y ddau bapur, gellir dewis sefyll un o’r papurau hyn ac unrhyw bwnc arall.

Ieithoedd Modern

Os yw ymgeiswyr yn astudio’r iaith fodern hyd at lefel Safon Uwch, disgwylir iddynt ddewis yr iaith honno ar gyfer un o’u dewisiadau.

Mathemateg

Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am gwrs sy’n cynnwys mathemateg* sefyll y papur Mathemateg ar gyfer un o’u dewisiadau.

* Ceir restr o gyrsau sy’n cynnwys mathemateg ar-lein.

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Disgwylir i ymgeiswyr i’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol sefyll un neu ddau o’r papurau a gynigiwn: Creative Writing (in English) ac English Literature. Er bod ymgeiswyr yn cael eu hannog i sefyll y ddau bapur, gellir dewis sefyll un o’r papurau hyn ac unrhyw bwnc arall.

Seicoleg

Dylai ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais i'r Adran Seicoleg gymryd y papur Seicoleg fel un o'u hopsiynau.

Y Gyfraith a Throseddeg

Er bod ymgeiswyr i Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cael eu hannog i ystyried dewis papurau Y Gyfraith / Troseddeg, mae unrhyw gyfuniad o bapurau yn dderbyniol.

Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Gall y rheini sy am wneud cais i astudio Cymraeg ddewis un o ddau bapur ysgoloriaeth, sef naill ai bapur Cymraeg Iaith Fodern yn achos myfyrwyr ail iaith, neu bapur Cymraeg Iaith Gyntaf yn achos myfyrwyr iaith gyntaf.

Ysgol Fusnes

Er bod ymgeiswyr i’r Ysgol Fusnes yn cael eu hannog i ystyried dewis y papur ar gyfer y pwnc y maen nhw wedi gwneud cais ar ei gyfer, mae unrhyw gyfuniad o bynciau yn dderbyniol.