Ffurflen Gais Bwrsariaeth Waldo Williams

Cyflwyna un o’r canlynol i’w ystyried gan banel Bwrsariaeth Waldo Williams:

  • Traethawd ar unrhyw agwedd ar waith creadigol Waldo Williams (dim mwy na 1,500 o eiriau)
  • Traethawd ar unrhyw agwedd ar heddychiaeth (dim mwy na 1,500 o eiriau)
  • Casgliad o waith creadigol sy’n ymateb i’r pwnc ‘heddwch’ neu ‘heddychiaeth’, neu sy’n ymateb yn uniongyrchol i waith creadigol Waldo Williams ei hun (dim mwy na 1,500 o eiriau neu 5 o gerddi)
  • Cyfieithiadau i’r Gymraeg o weithiau llenyddol sy’n cyfleu neges heddychol (dim mwy na 1,500 o eiriau neu 50 llinell o farddoniaeth). Gall dechreuwyr pur gyflwyno cyfieithiadau i’r Saesneg o weithiau llenyddol perthnasol.


Gellir cyflwyno’r gwaith fel atodiad i’r ffurflen hon neu drwy e-bost at ysgoloriaethau@aber.ac.uk erbyn 31 Ionawr.  

Disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno gwaith Cymraeg ei iaith, oni bai eu bod yn ymgeisio i astudio Cymraeg i Ddechreuwyr.

Datganiad

Wrth gyflwyno’r ffurflen gais, tystiaf fod yr holl wybodaeth a roddir yn y cais hwn yn gywir ac yn gyflawn. Deallaf y bydd y dyfarniad yn cael ei ddiddymu os newidiaf i gynllun astudio anghymwys, neu os na chadwaf at delerau ac amodau llawn y dyfarniad. Derbyniaf efallai y bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni i hybu’r Fwrsariaeth ac adrodd yn ôl i’r rhoddwr ar yr effaith a gafodd ar eu hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rhoddaf ganiatâd i ymholiadau gael eu gwneud drwy gysylltu â’r awdurdodau perthnasol i gadarnhau’r wybodaeth a ddarparwyd.

Diogelu Data

Bydd yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw yn unol â deddfwriaeth gyfredol diogelu data. Dim ond yng nghyswllt dy gais am yr ysgoloriaeth hon y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth. Yr unig rai a fydd yn defnyddio’r wybodaeth fydd i) staff sy’n rhan o waith gweinyddu Bwrsariaeth Waldo Williams, ac mewn rhai achosion ii) pobl allanol sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r Fwrsariaeth. Cedwir yr wybodaeth ar y sail dy fod wedi cytuno i’r prosesu hyn, ond hefyd ei fod o fewn i fuddiannau cyfreithiol y Brifysgol i gadw’r wybodaeth ar gyfer y dibenion uchod. Bydd yn cael ei dileu yn ddiogel ymhen 12 mis. I gael rhagor o fanylion ynglŷn â rheoli dy ddata personol, gweler: https://www.aber.ac.uk/cy/gmsr/data-protection-information/