Bwrsariaeth Myfyriwr Rashid Domingo
Mae’r fwrsariaeth hon ar gael oherwydd rhodd hael i’r Brifysgol gan y ddiweddar Mr Rashid Domingo.
Ganwyd Mr Domingo yn Ne Affrica a bu’n astudio Meddygaeth, Cemeg a Biocemeg ym Mhrifysgol Cape Town mewn cyfnod pan oedd ychydig iawn o leoedd ar gael i fyfyrwyr nad oeddynt yn wyn. Yn ystod y cyfnod Apartheid, pan oedd cyfleoedd iddo ef a’i deulu yn hynod o brin, ymfudodd Mr Domingo i Brydain a sefydlodd gwmni o’r enw Biozyme ym Maidenhead yn 1974. Yn 1974 o ganlyniad i lwyddiant ac ehangiad y cwmni, roedd angen cartref newydd ar Biozyme ac fe’i cafwyd ym Mlaenafon lle roedd Llywodraeth Prydain yn cynnig grantiau ar gyfer offer a pheiriannau yn ogystal â manteision eraill i gwmnïau oedd yn barod i symud i Dde Cymru er mwyn cynorthwyo i wrthsefyll diweithdra difrifol. Tyfodd Biozyme i fod yr ail gynhyrchydd mwyaf yn y byd o ensymau ar gyfer diagnosteg glinigol. Mae Mr Domingo yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn datblygu ffosffasat alcalinaidd actifedd uchel, ensym a’i gwnaeth yn bosibl i fesur arwyddion cynnar o ganser y prostad yn gyflym ac yn gost effeithiol.
Ar ôl creu nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau yn Ne Affrica, ei wlad frodorol, roedd Mr Domingo yn awyddus i gyfeirio’i roddion dyngarol tuag at Gymru a myfyrwyr Cymreig ac yn dymuno cynorthwyo ymgeiswyr abl a haeddianol i gyflawni eu potensial academaidd. Y gobaith yw y bydd y rhai sy’n derbyn y Fwrsariaeth yn cael eu symbylu i ystyried helpu myfyrwyr eraill mewn modd tebyg yn y dyfodol.
- Mae’r Fwrsariaeth ar gael i ymgeiswyr ar unrhyw gwrs israddedig yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) neu’r Adran Ffiseg a bydd yn cael ei dyfarnu am uchafswm o 3 blynedd.
- Rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg yng Nghymru am 3 blynedd o leiaf.
- Rhaid i ymgeiswyr wneud cais i Brifysgol Aberystwyth drwy UCAS erbyn eu dyddiad cau ym mis Ionawr a rhaid iddynt nodi cwrs cymwys ym Mhrifysgol Aberystwyth fel eu dewis pendant drwy UCAS er mwyn cael eu hystyried.
- Mae’r Fwrsariaeth wedi’i hanelu at fyfyrwyr a allai oni bai am hynny gael eu rhwystro rhag mynd i brifysgol oherwydd ystyriaethau ariannol; mae gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gymwysr am y Fwrsariaeth drwy lenwi ffurflen gais y dylid ei chyflwyno erbyn 31ain Ionawr.
- Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ddod i gyfweliad byr i drafod eu cais yn ystod Diwrnod Ymweld Ymgeiswyr yn Chwefror neu Fawrth.
- Bydd y Panel Dyfarnu yn cyfarfod i benderfynu ar y dyraniad yn Ebrill; bydd penderfyniad y Panel Dyfarnu yn derfynol.
- Gwerth y Fwrsariaeth yw £8,500 dros 3 blynedd.
- Gall ymgeiswyr ddewis aros yn llety’r Brifysgol am 3 blynedd os dyna’u dymuniad (yn amodol ar gyflwyno cais bob blwyddyn o fewn y dyddiadau a nodir gan y Swyddfa Llety i fyfyrwyr sy’n dychwelyd).
- Bydd 1 ysgoloriaeth yn cael eu dyfarnu ar gyfer 2023.
- Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi bod yn fyfyrwyr gradd yn flaenorol mewn unrhyw sefydliad addysg uwch.
- Gellir dal y Fwrsariaeth ochr yn ochr ag unrhyw Ysgoloriaeth neu Fwrsariaeth Prifysgol Aberystwyth.
- Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu pob darlith a chynnal safon uchel o berfformiad academaidd a phresenoldeb, fel y penderfynir gan y Panel Dyfarnu.
- Dichon y bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus weithio gyda thiwtor dynodedig a Swyddfa Cysylltiadau Alumni’r Brifysgol er mwyn hyrwyddo’r Gronfa a chynorthwyo gydag adrodd yn ôl i’r rhoddwr ar yr effaith a gafodd y Gronfa ar eu hastudiaethau.
- Bydd gofyn i ddeiliaid y dyfarniad gynnal cysylltiad rheolaidd â thiwtor dynodedig er mwyn sicrhau eu bod yn symud ymlaen hyd eithaf eu gallu.
- Ni fydd taliadau’n cael eu rhoi yn ystod blynyddoedd dramor, blynyddoedd mewn diwydiant neu flynyddoedd rhyng-gwrs.
- Gall Mr Domingo gysylltu â deiliaid y Fwrsariaeth yn ystod cwrs eu hastudiaethau.
- Bydd methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion uchod yn golygu y bydd y Fwrsraiaeth yn cael ei diddymu.