Bwrsariaeth Rashid Domingo Ffurflen Gais

 

9. Mae’r Fwrsariaeth wedi ei hanelu at fyfyrwyr a fyddai hebddi yn cael eu rhwystro rhag mynd i Brifysgol oherwydd ystyriaethau ariannol, er enghraifft a ydych chi: yn byw neu’n mynd i ysgol/coleg mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, yn dod o deulu sydd ag incwm isel, dim profiad teuluol o addysg uwch, heb unrhyw gefnogaeth ariannol gan rieni/gofalwyr am resymau y gellir eu cyfiawnhau?

Datganiad:

  • Rwy’n tystio bod yr holl wybodaeth a roir yn y cais hwn yn gywir a chyflawn.
  • Rwy’n deall bod telerau ac amodau’r dyfarniad yn gofyn i mi, os byddaf yn llwyddiannus, gadw mewn cysylltiad rheolaidd â thiwtor enwebedig er mwyn sicrhau fy mod yn gwneud cynnydd hyd eithaf fy ngallu.
  • Deallaf y bydd y dyfarniad yn cael ei ddiddymu pe byddwn yn newid i gynllun astudiaeth anghymwys, neu os na fyddaf yn cadw at delerau ac amodau llawn y dyfarniad.
  • Rwy’n derbyn y gellir gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda thiwtor dynodedig a Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni y Brifysgol i hyrwyddo’r Gronfa ac i gynorthwyo i adrodd yn ôl i’r rhoddwr am yr effaith a gafodd y Gronfa ar ei astudiaethau.
  • Deallaf y bydd disgwyl i mi, os byddaf yn llwyddiannus, fynd i bob darlith a chyrraedd a chynnal safon uchel o berfformiad a phresenoldeb academaidd.
  • Rwy’n rhoi fy nghaniatâd i ymholiadau gael eu gwneud gydag awdurdodau perthnasol i wybodaeth a roddwyd.

Bydd yr wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon yn cael ei chadw yn unol â deddfwriaeth gyfredol diogelu data. Dim ond yng nghyswllt eich cais am yr ysgoloriaeth hon y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth. Yr unig rai a fydd yn defnyddio’r wybodaeth fydd i) staff sy’n rhan o waith gweinyddu bwrsariaeth Rashid Domingo, ac mewn rhai achosion ii) pobl allanol sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r ysgoloriaeth. Cedwir yr wybodaeth ar y sail eich bod wedi cytuno i’r prosesu hyn, ond hefyd ei fod o fewn i fuddiannau cyfreithiol y Brifysgol i gadw’r wybodaeth ar gyfer y dibenion uchod. Bydd yn cael ei dileu yn ddiogel am 12 o fisoedd ar ôl ei chael. I gael rhagor o fanylion ynglŷn â rheoli eich data personol, gweler: https://www.aber.ac.uk/cy/marketing-studentrec/about-us/data-protection-information/