Bwrsariaeth Rashid Domingo

£8,500 dros 3 blynedd - cynigir y Fwrsariaeth hon drwy rodd hael i’r Brifysgol gan y ddiweddar Mr Rashid Domingo.
Mae ar gael i ymgeiswyr am unrhyw gwrs israddedig yn IBERS neu yn yr Adran Ffiseg, sydd wedi bod mewn ysgol uwchradd/coleg yng Nghymru am o leiaf 3 blynedd.
Bwriedir i’r Fwrsariaeth helpu myfyrwyr a allai fel arall fod wedi methu â mynd i brifysgol oherwydd ystyriaethau ariannol.
Sut mae gwneud cais?
Llenwch y Ffurflen Gais a’i dychwelyd erbyn 31 Ionawr 2023. Telerau ac Amodau.
Sut fyddaf i’n cael fy nhalu?
Fe gewch 3 rhandaliad o £1,000 ym mlynyddoedd 1 a 2 o'r cwrs, a £1,000, £1,000 a £500 yn y 3ydd flwyddyn. Telir yr arian yn syth i’ch cyfrif banc – ym mis Hydref, Rhagfyr a Mawrth.