Ffurflen Gais Bwrsariaeth Margaret Evelyn "Lynne" Williams

Datganiad

Diogelu Data

Bydd yr wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon yn cael ei chadw yn unol â deddfwriaeth gyfredol diogelu data. Dim ond yng nghyswllt eich cais am yr ysgoloriaeth hon y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth. Yr unig rai a fydd yn defnyddio’r wybodaeth fydd i) staff sy’n rhan o waith gweinyddu’r ysgoloriaeth Margaret Evelyn “Lynne” Williams, ac mewn rhai achosion ii) pobl allanol sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r ysgoloriaeth. Cedwir yr wybodaeth ar y sail eich bod wedi cytuno i’r prosesu hyn, ond hefyd ei fod o fewn i fuddiannau cyfreithiol y Brifysgol i gadw’r wybodaeth ar gyfer y dibenion uchod. Bydd yn cael ei dileu yn ddiogel am 12 o fisoedd ar ôl ei chael. I gael rhagor o fanylion ynglŷn â rheoli eich data personol, gweler: https://www.aber.ac.uk/cy/gmsr/data-protection-information/