Ysgoloriaethau Adrannol Mathemateg

Hyd at £500 y blwyddyn.

Mae ein Adran Mathemateg yn cynnig Ysgoloriaethau Adrannol i ymgeiswyr anrhydedd sengl (£500 y flwyddyn) neu anrhydedd gyfun (£250 y flwyddyn).

Sut mae gwneud cais?

Nid oes angen gwneud cais - bydd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn awtomatig.  I fod yn gymwys, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill Ysgoloriaeth Mynediad y Brifysgol yn y pwnc perthnasol neu gradd A* yn eu harholiadau Mathemateg Safon Uwch.

Mae nifer y dyfarniadau sydd ar gael yn amrywio a bydd Panel Dyfarnu'r Adran yn penderfynnu ar y dyfarniadau.

Gwerth y wobr yw £500 y flwyddyn ar gyfer ymgeiswyr am gyrsiau anrhydedd sengl a chyrsiau prif/is-bwnc (y prif bwnc mewn mathemateg), a £250 y flwyddyn i ymgeiswyr am gyrsiau anrhydedd cyfun.  Ar gyfer ymgeiswyr cydanrhydedd, mae'n bosibl derbyn gwobr gan y ddwy Adran.

Caiff myfyrwyr gadw’r wobr os ydynt yn cael cyfartaledd o 70% neu  uwch y modiwlau perthnasol bob blwyddyn.