Ffurflen Gais Ysgoloriaeth Emily Price

Cynigir Ysgoloriaeth Emily Price i ymgeiswyr benywaidd am gyrsiau israddedig sy’n dangos addewid academaidd ac angerdd dros ddenu mwy o fenywod i faes mathemateg a/neu ffiseg.

Datganiad:

Tystiaf fod yr holl wybodaeth a roddir yn y cais hwn yn gywir ac yn gyflawn.

Os byddaf yn llwyddiannus, deallaf y bydd yn rhaid i mi, o dan delerau ac amodau’r dyfarniad, gael cyswllt rheolaidd â thiwtor penodedig er mwyn sicrhau fy mod yn datblygu hyd eithaf fy ngallu.

Deallaf y bydd y dyfarniad yn cael ei ddiddymu os newidiaf i gynllun astudio anghymwys, neu os na chadwaf at delerau ac amodau llawn y dyfarniad.

Derbyniaf efallai y bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda thiwtor penodedig, adrannau academaidd y Brifysgol, a’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni i hybu’r Ysgoloriaeth a’r effaith a gafodd ar fy astudiaethau.

Os byddaf yn llwyddiannus, deallaf y bydd disgwyl i mi fynd i bob darlith a chynnal safon gyson uchel o ran perfformiad academaidd a phresenoldeb.

Rhoddaf ganiatâd i ymholiadau gael eu gwneud drwy gysylltu â’r awdurdodau perthnasol i gadarnhau’r wybodaeth a ddarparwyd.

Bydd yr wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon yn cael ei chadw yn unol â deddfwriaeth gyfredol diogelu data. Dim ond yng nghyswllt eich cais am yr ysgoloriaeth hon y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth. Yr unig rai a fydd yn defnyddio’r wybodaeth fydd i) staff sy’n rhan o waith gweinyddu’r ysgoloriaeth Emily Price, ac mewn rhai achosion ii) pobl allanol sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r ysgoloriaeth. Cedwir yr wybodaeth ar y sail eich bod wedi cytuno i’r prosesu hyn, ond hefyd ei fod o fewn i fuddiannau cyfreithiol y Brifysgol i gadw’r wybodaeth ar gyfer y dibenion uchod. Bydd yn cael ei dileu yn ddiogel am 12 o fisoedd ar ôl ei chael. I gael rhagor o fanylion ynglŷn â rheoli eich data personol, gweler: https://www.aber.ac.uk/cy/marketing-studentrec/about-us/data-protection-information/