Ysgoloriaeth Emily Price

Ysgoloriaeth Emily Price; Adeilad y Gwyddorau Ffisegol

Sefydlwyd hon gan deulu a chyfeillion un o’n cyn-fyfyrwyr, Emily Price.

I helpu ymgeiswyr benywaidd i ddilyn cyrsiau Mathemateg neu Ffiseg yn Aberystwyth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos addewid academaidd ac angerdd dros ddenu mwy o fenywod i faes mathemateg a/neu ffiseg.

Sut mae gwneud cais?

Llenwch y Ffurflen Gais a’i dychwelyd erbyn 31 Ionawr 2025.

Telerau ac Amodau

Sut fyddaf i’n cael fy nhalu?

Cewch eich talu mewn dau randaliad yn syth i’ch cyfrif banc yn ystod blwyddyn gyntaf eich cwrs (mis Rhagfyr a mis Mawrth).