Ysgoloriaethau Adrannol Cyfrifiadureg
Hyd at £500 y blwyddyn.
Mae ein Adran Cyfrifiadureg yn cynnig Ysgoloriaethau Adrannol i ymgeiswyr anrhydedd sengl (£500 y flwyddyn) neu anrhydedd gyfun (£250 y flwyddyn).
Sut mae gwneud cais?
Nid oes angen gwneud cais - bydd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn awtomatig. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill Ysgoloriaeth Mynediad y Brifysgol yn y pwnc perthnasol neu graddau Safon Uwch rhagorol (A*).
Mae nifer y dyfarniadau sydd ar gael yn amrywio a bydd Panel Dyfarnu'r Adran yn penderfynnu ar y dyfarniadau.
Gwerth y wobr yw £500 y flwyddyn ar gyfer ymgeiswyr am gyrsiau anrhydedd sengl a chyrsiau prif/is-bwnc (y prif bwnc mewn mathemateg), a £250 y flwyddyn i ymgeiswyr am gyrsiau anrhydedd cyfun. Ar gyfer ymgeiswyr cydanrhydedd, mae'n bosibl derbyn gwobr gan y ddwy Adran.
Caiff myfyrwyr gadw’r wobr os ydynt yn cael cyfartaledd o 70% neu uwch y modiwlau perthnasol bob blwyddyn.