Prifysgol Aberystwyth – Ysgoloriaeth Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth

Mae’r Ysgoloriaeth hon ar gyfer ymgeiswyr gwrywaidd neu benywaidd, israddedig neu uwchraddedig o’r DU sy’n gwneud cais i astudio llawn amser am radd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n RHAID i’r ymgeiswyr fod â phrofiad o chwarae pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru, neu ar lefel gyfatebol.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais – 15 Gorffennaf 2024.

Noder, mae'r ysgoloriaeth hon bellach wedi cau ar gyfer mynediad 2023.

Datganiad: Rwy’n datgan bod y manylion a roddwyd ar y ffurflen gais hon yn gynrychiolaeth wir a chywir o’m statws a’m cyflawniadau. Os wyf yn llwyddiannus, rwy’n ymrwymo i gadw at delerau ac amodau’r wobr. Deallaf y gall fy manylion gael eu defnyddio yn neunyddiau cyhoeddusrwydd y Brifysgol a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth oni bai fy mod yn nodi fel arall.

Noder: Gall ymgeiswyr gael eu gwahodd i fynychu Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth am dreial. Mae penderfyniad y panel dyfarnu yn derfynol.

Bydd yr wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon yn cael ei chadw yn unol â deddfwriaeth gyfredol diogelu data. Dim ond yng nghyswllt eich cais am yr ysgoloriaeth hon y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth. Yr unig rai a fydd yn defnyddio’r wybodaeth fydd i) staff sy’n rhan o waith gweinyddu’r ysgoloriaeth PA-CPTA, ac mewn rhai achosion ii) pobl allanol sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r ysgoloriaeth. Cedwir yr wybodaeth ar y sail eich bod wedi cytuno i’r prosesu hyn, ond hefyd ei fod o fewn i fuddiannau cyfreithiol y Brifysgol i gadw’r wybodaeth ar gyfer y dibenion uchod. Bydd yn cael ei dileu yn ddiogel am 12 o fisoedd ar ôl ei chael. I gael rhagor o fanylion ynglŷn â rheoli eich data personol, gweler: https://www.aber.ac.uk/cy/marketing-studentrec/about-us/data-protection-information/