Y Cod Genetig

Croeso i Wythnos Wyddoniaeth Prydain yma o Brifysgol Aberystwyth!

Ydych chi’n gwybod beth sy’n rheoli eich corff ac yn eich gwneud chi’n berson? Molecwl ag edefyn dwbl yw DNA, sy’n cadw’r holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i’ch corff chi allu gweithio. Ond sut mae’r wybodaeth yn cael ei dehongli fel bod eich celloedd yn ei deall? Yn syml, defnyddir cod genetig sy’n unigryw i bob organeb byw.

CWESTIWN CWIS!

Beth yw strwythur DNA?