Cornel Rhieni ac Athrawon

Croeso i Wythnos Wyddoniaeth Prydain yma o Brifysgol Aberystwyth!

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â chynnal digwyddiadau fel yr Wythnos Wyddoniaeth, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o weithdai ac adnoddau am ddim i ysgolion. 

Adborth

Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw adborth sydd gennych fel bod ni gallu gwella'r digwyddiad hwn yn y dyfodol.

Dyma'r linc i lenwi'r ffurflen adborth.

Os dewch chi o hyd i broblem gydag un o'n tudalennau gwe neu stondinau, cysylltwch â ni - denu-myfyrwyr@aber.ac.uk 

 

Cwis Wythnos Wyddoniaeth Prydain

Yn yr un modd â phob blwyddyn, mae gennym cwis i'ch plant/disgyblion ei gwblhau wrth iddynt ymweld â'r gwahanol stondinau.

Rydym yn argymell eich bod yn cadw'r cwis ar agor mewn tab arall ar eich porwr, fel y gallwch fynd yn ôl ac ymlaen yn hawdd rhwng y stondinau a'r cwis.

Dyma'r linc i'r cwis.

 

Hwb Adnoddau Ar-lein

Mae gan y Brifysgol hefyd Hwb Adnoddau Ar-lein sy'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth i Athrawon, Rhieni a Myfyrwyr o bob oed.

Gallwch gael mynediad i'r Hwb Adnoddau Ar-lein fan hyn. 

 

Gweithgareddau Allgymorth

Os hoffech i'ch plant/disgyblion ddysgu mwy am wyddoniaeth, yna efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn trefnu gweithgaredd allgymorth efo ni. Dysgwch fwy am y gweithgareddau allgymorth sydd ar gael gyda'r adrannau islaw.

Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol

Natalie Roberts yw'r Swyddog Estyn Allan y Gyfadran Busnes a’r  Gwyddorau Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’n bosib eich bod eisoes yn gwybod ein bod ni, cyn Covid-19, yn cynnig gweithdai mewn ysgolion ac i’r cyhoedd am ddim, ac ar gyfer pob oed, ym meysydd Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg. Erbyn hyn, rydym yn cynnig amrywiaeth ehangach o weithdai, wrth inni gynnwys Busnes ac Astudiaethau Gwybodaeth, yn rhithwir. Gweler y ddewislen lawn isod: 

Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol - Gweithgareddau Allgymorth

Rydym yn deall bod y flwyddyn ddiwethaf yma wedi bod yn anodd iawn i athrawon, rhieni, a myfyrwyr, a’u rhoi dan straen. Felly, rydym wedi dechrau rhoi gweithdai ac adnoddau ar Hwb Estyn Allan y Gyfadran, er mwyn iddynt fod ar gael i ddysgwyr yn uniongyrchol. Penderfynwyd addasu rhai o’r deunyddiau hyn a’u troi yn becynnau adnoddau i athrawon ac maen nhw bellach ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon trwy TES (The Times Educational Supplement):

Cliciwch Yma - Link i'r hwb adnoddau 'Busnes a'r Gwyddorau Ffisegol'

Cliciwch Yma - Link i'r Adnoddau TES

Rydym wrthi’n datblygu deunyddiau a gweithdai newydd drwy’r amser. Os oes gennych awgrym, ymholiad, neu’n chwilio am gymorth ar gyfer pwnc/maes penodol, mae pob croeso ichi gysylltu â Natalie (nar25@aber.ac.uk). 

Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Rydym yn awyddus i greu a chynnal cysylltiadau ag ysgolion a cholegau ledled Cymru a’r DU.

Gallwn gynnig ymweliadau â’ch sefydliad gan aelodau o’n staff academaidd, a fydd yn gallu cyflwyno sgyrsiau am y brifysgol, am IBERS, ac am y cynlluniau gradd sydd gennym i’w cynnig i israddedigion ac uwchraddedigion. Bydd modd i ni hefyd siarad am yr ymchwil y mae IBERS yn ei wneud a sut brofiad yw astudio mewn addysg uwch.

Os oes gennych awgrym, ymholiad, neu’n chwilio am gymorth ar gyfer pwnc/maes penodol, mae pob croeso ichi gysylltu â Dr Russ Morphew (rom@aber.ac.uk

Edrychwch fan hyn am fwy o wybodaeth am ein gwaith allgymorth:

Cliciwch Yma - Linc i'r Dudalen Allgymorth Adrannol. 

 

 

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Rydym yn ymroddedig i ddarparu digwyddiadau estyn allan ac ymgysylltiad cyhoeddus i ysgolion a cholegau ar draws y DU.

Mae gennym raglen gynhwysfawr o ran cyswllt ag ysgolion a cholegau sydd wedi’i chynllunio i gyfoethogi’r cwricwla TGAU a Safon Uwch, gan ddarparu amrywiaeth o adnoddau i fyfyrwyr Daearyddiaeth, Daeareg, Astudiaethau Amgylcheddol a Chymdeithaseg.

Os oes gennych awgrym, ymholiad, neu’n chwilio am gymorth ar gyfer pwnc/maes penodol, mae pob croeso ichi gysylltu â’r Athro Mark Whitehead (msw@aber.ac.uk).

Edrychwch fan hyn am fwy o wybodaeth am ein gwaith allgymorth:

Cliciwch Yma - Linc i'r Dudalen Allgymorth Adrannol. 

 

Seicoleg

Mae gan Seicoleg yn Aberystwyth draddodiad hir o ymgysylltu ag ysgolion ym mhedwar ban byd.

Mae gennym arbenigedd mewn sawl agwedd o Seicoleg ac mae nifer dda ohonynt yn faterion a gynhwysir ym meysydd llafur y Fagloriaeth Ryngwladol, Safon Uwch a TGAU. Mae'r staff yma yn gwybod bod siarad â myfyrwyr (a rhieni ac athrawon) yn gyfle i'n cynorthwyo i ddatblygu seicoleg ar draws Prydain a chynorthwyo myfyrwyr i benderfynu ynglŷn â'r hyn yr hoffent ei astudio ar ôl gadael yr ysgol. Mae gan bawb ohonom berthynas waith dda ag athrawon ac ymgynghorwyr ym Mhrydain a thu hwnt, felly cofiwch gysylltu â ni os credwch y gallwn chwarae rhan ddefnyddiol yn strategaeth eich ysgol. Os na allwn wneud unrhyw beth arall, gallwn chwistrellu ychydig o syndod a hwyl ar yr adegau y bydd myfyrwyr yn dechrau colli ffocws, a'u hatgoffa bod gwerth pendant i'w gwaith caled yn y pen draw.

Os oes gennych awgrym, ymholiad, neu’n chwilio am gymorth ar gyfer pwnc/maes penodol, mae pob croeso ichi gysylltu â'n tîm (psrstaff@aber.ac.uk).

Edrychwch fan hyn am fwy o wybodaeth am ein gwaith allgymorth:

Cliciwch Yma - Linc i'r Dudalen Allgymorth Adrannol.