Hanes

Ochr yn ochr â dysgu gwybodaeth newydd a chyffrous am y gorffennol, wrth astudio ein rhaglenni gradd Hanes byddwch yn meithrin amrywiaeth o alluoedd, o ddadansoddi, gwirio ffeithiau a chyfathrebu, i feddwl yn feirniadol a thrafod. Mewn byd lle mae'n hollbwysig gallu cloriannu a dadansoddi gwybodaeth yn gyflym, bydd gradd mewn Hanes yn eich paratoi i lwyddo ym mha yrfa bynnag y dewiswch. 

Mae astudiaeth academaidd o Hanes yn eich annog i feddwl yn feirniadol fel y gallwch ddatrys problemau mewn ffordd ystyriol a sensitif. Trwy gydol eich gradd, bydd y pwyslais a rown ar y galluoedd trosglwyddadwy hyn yn gymorth i chi fagu hyder a datblygu menter. 

  • Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym mhwnc Hanes (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Rydym yn ymrwymo i ddod i adnabod ein myfyrwyr. Mae hyn yn rhan annatod o'n strwythur gradd ac yn ein gosod ar wahân.
  • Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ym mhwnc Hanes (Canllaw Prifysgolion Da 2022, The Times and Sunday Times)

Pam astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Dysgwyd Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth ers yr 1870au sy’n ein gwneud yn un o’r adrannau Hanes hynaf yng Nghymru. 
  • Mae ein myfyrwyr yn elwa o draddodiad ymchwil sefydledig ac yn cael eu dysgu'n uniongyrchol gan arbenigwyr sy'n gweithio ar amryw gyfnodau hanesyddol. Rydym yn dysgu mewn grwpiau bach, gan gynnwys tiwtorialau un-i-un a chyrsiau seminar, er enghraifft ein modiwlau sgiliau a'r modiwlau pwnc arbennig. 
  • Mae ein modiwlau'n canolbwyntio nid yn unig ar gyflawniad unigol, ond ar gynnal amgylchedd hamddenol a chynhyrchiol. Rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar ddysgu mewn grwpiau bach, ac mae gwaith tîm ac adeiladu tîm yn bwysig i ni yn ogystal â meithrin eich hyder i allu’ch cyflwyno eich hun yn effeithiol mewn sefyllfaoedd grŵp. 
  • Byddwn yn meithrin eich angerdd a'ch brwdfrydedd am hanes ac yn gadael iddo dyfu er mwyn eich cynnal yn ddeallusol ac ym myd gwaith. Bydd gradd Hanes o Brifysgol Aberystwyth yn rhoi'r medrau sydd eu hangen arnoch i ddechrau ar eich dewis yrfa.  
  • Yn Aberystwyth, bydd gennych yr hyblygrwydd i astudio hanes o’r oesoedd canol hyd at y cyfnod cyfoes, a dewis helaeth o themâu, er enghraifft pŵer, trais, mudo, rhywedd a syniadau, ymhlith eraill. 
  • Bydd astudio am radd gyda ni yn rhoi profiad ymarferol i chi o ymchwil hanesyddol. O ddechrau eich cwrs byddwch yn gweithio gyda ffynonellau gwreiddiol, ac yn elwa o ddefnyddio adnoddau o'r radd flaenaf, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ogystal â'n llyfrgell prifysgol ein hunain, Llyfrgell Hugh Owen. 

Cyflogadwyedd

Hanes yn Aberystwyth: Datblygu Doniau i’r Gweithle 

Mae hanes yn radd uchel ei pharch sydd nid yn unig yn rhoi darlun o ddynoliaeth trwy'r oesoedd, ond yn rhoi cyfle i chi feithrin llawer o sgiliau. Bydd yn eich hyfforddi i ddatblygu galluoedd pwysig a ystyrir yn hanfodol i gael mynediad i farchnad swyddi gystadleuol. 

Mae'r doniau y byddwch yn eu meithrin ar eich gradd Hanes yn rhai amlbwrpas, yn eang ac yn drosglwyddadwy a byddant yn eich paratoi am bob math o broffesiynau. Maent yn bwysig yng ngolwg cyflogwyr a gellir eu cymhwyso i bob math o leoliadau gwaith. 

Rydym yn cynnig arweiniad a chefnogaeth ynglŷn â bywyd ar ôl y brifysgol, dan gyfarwyddyd cydlynydd cyflogadwyedd academaidd. Mae hyn yn cynnwys cymorth gan eich tiwtor personol, sgyrsiau, gweithdai a sesiynau un-i-un trwy'r Gwasanaeth Gyrfaoedd, cyfle i gael eich mentora gan gyn-fyfyrwyr, a'n cynllun Lleoliadau Myfyrwyr yn y Sector Treftadaeth. 





Cyfleusterau

  • Mae gan lyfrgell y brifysgol, Llyfrgell Hugh Owen, adran hanes ardderchog. 
  • Saif Llyfrgell Genedlaethol Cymru - un o ddim ond pum llyfrgell Hawlfraint yn y Deyrnas Unedig - yn agos iawn i'r adran. 

Ymchwil

Mae ein gwaith ymchwil yn arloesol a safonol. Rydym yn arwain ac yn cyfrannu at brosiectau a chyhoeddiadau ymchwil pwysig, llawer ohonynt yn cael effaith ymhell y tu hwnt i Brifysgol Aberystwyth a'r cyffiniau. 

Mae ein holl staff addysgu yn ymchwilwyr gweithgar sydd ar flaen y gad mewn ymchwil ym maes hanes, ac yn gweithio ar lefel ryngwladol. Mae'r rhain yn bobl sy'n cael effaith ac yn gwneud gwahaniaeth - yn dylanwadu ar syniadau a meddylfryd ar amrywiaeth eang o bynciau. Mae ein staff addysgu yn defnyddio eu hymchwil i arwain eu gwaith o addysgu'r genhedlaeth nesaf o haneswyr. 

Mae ein hymchwil yn cwmpasu'r cyfnod o'r Oesoedd Canol tan heddiw. O ffocws traddodiadol ar Brydain ac Ewrop, mae yn yr Adran bellach ymchwilwyr hanes sy’n canolbwyntio ar Asia a Gogledd America. Ar ben hyn, rydym yn cwmpasu meysydd amrywiol sy'n cynnwys rhai o'r prif ddulliau a ddefnyddir gan haneswyr y dyddiau hyn i ymchwilio ac ysgrifennu am y gorffennol. Mae’r rhain yn gryfderau nodedig, yn y termau ehangaf, mewn hanes gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd, a hanes crefyddol. 

Ymhlith nifer o themâu ymchwil, mae haneswyr yn yr Adran yn astudio sut mae pobl wedi deall ac ysgrifennu am hanes mewn cymdeithasau yn y gorffennol; hanes meddygaeth, gwyddoniaeth a thechnoleg; a hanes y cyfryngau. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.