Ffilm a Theledu

Os oes gennych ddiddordeb yn y ddelwedd symudol fel ffurf gelf neu yn niwydiant y cyfryngau creadigol, bydd ein rhaglen radd amrywiol mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu; Creu Ffilm; Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu; ac Ysgrifennu ar gyfer Darlledu, Cyfryngau a Pherfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r cyfle i chi archwilio amryw o ddulliau technegol a beirniadol o fewn amgylchedd creadigol. 

Yn Aberystwyth, rydyn ni'n cynnig addysgu arbenigol ar wneud ffilmiau dogfen, ffilmiau ffuglen, gwneud ffilmiau arbrofol, cynhyrchu aml-blatfform, cynhyrchu stiwdio a sgriptio, yn ogystal â sinema gelf, sinema arswyd a chwlt, Hollywood, astudiaethau rhywedd, estheteg teledu, diwylliannau digidol, gemau fideo, cyfryngau a chyfathrebu. 

Wedi'i gynllunio i roi cyfuniad o sgiliau ymarferol, hyder creadigol ac ymwybyddiaeth feirniadol i chi, mae'r cwrs amlbwrpas hwn yn agor pob math o lwybrau i ddiwydiant cyffrous. 

  • Yn y 15 uchaf yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol ym maes Astudiaethau Cyfryngau a Ffilm (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
  • 2il yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd gyda'r Asesu a’r Adborth ym maes Astudiaethau Cyfryngau a Ffilm (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
  • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff a gafodd gydnabyddiaeth rhyngwladol ac sydd ag enw da proffesiynol cadarn am ysgrifennu drama deledu (ee Hollyoaks), drama radio, ac addasiadau a dramâu.

Pam astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Cewch eich dysgu a'ch mentora gan dîm o arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n adnabyddus yn rhyngwladol. 
  • Byddwch yn elwa o'n profiadau dysgu cyflenwol lle mae damcaniaeth ac ymarfer wedi'u cynllunio i fwydo i'w gilydd. 
  • Gallwch fanteisio ar ein cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, megis S4C, Fiction Factory, Arad Goch, BAFTA Cymru, Archif Ddarlledu Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Avid. Mae'r partneriaid hyn yn cynnig cyfle gwych i rwydweithio a chysylltu â gweithwyr yn y diwydiant cyn graddio. 
  • Byddwch yn gallu defnyddio’r cyfleusterau a'r adnoddau gwych sydd gennym ar gyfer gwaith ymarferol - gweler y tab 'Cyfleusterau'. 
  • Ar ein campws ac wedi'i leoli nesaf at yr Adran mae un o'r canolfannau celfyddydol mwyaf yng Nghymru, lle mae dangosiadau ffilm, sgyrsiau, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd a gwyliau ffilm yn cael eu cynnal yn rheolaidd. 
  • Os ydych yn chwilio am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, bydd cyfle i gymryd lleoliad astudio dramor gydag un o'n Prifysgolion partner yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd trwy ein rhaglen Cyfnewid Rhyngwladol. 

Cyflogadwyedd

Trwy astudio ein graddau mewn Ffilm a Theledu, byddwch wedi eich paratoi’n dda am yrfa yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt. Trwy astudio’r cwrs, byddwch yn ennill medrau trosglwyddadwy sy’n bwysig yng ngolwg cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys y gallu i gymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn pob math o sefyllfaoedd; bod yn hunanysgogol ac yn hunan ddisgybledig; y gallu i strwythuro a chyfathrebu syniadau'n effeithiol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a defnyddio pob math o ddulliau, a gallu gweithio'n annibynnol a chydag eraill. 

Yn yr ail flwyddyn, mae modiwl arbennig sy'n edrych yn benodol ar eich gobeithion gyrfaol ac yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith, gan eich cefnogi i ddatblygu eich CV. Hefyd, rydyn ni'n cynnal dosbarthiadau meistr niferus, yn croesawu siaradwyr gwadd ac yn cynnal gweithdai creadigol gydol y flwyddyn. 

Bydd gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodol a fydd yn rhoi cymorth ar gyflogadwyedd trwy gyfrwng gweminarau pwrpasol, apwyntiadau cyfarwyddyd, tudalennau gyrfaoedd pwrpasol a sesiynau o fewn y cwricwlwm. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am yr holl gyfleoedd profiad gwaith. 

Mae llawer o'n graddedigion yn cael eu cyflogi gan y diwydiant ffilm a theledu yn gyfarwyddwyr, gweithredwyr camerâu, golygyddion, cynhyrchwyr ac ymchwilwyr. Mae eraill yn gweithio ym maes dosbarthu ffilmiau, gwneud ffilmiau llawrydd, rhaglennu gwyliau ffilm, newyddiaduraeth, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus a gweinyddu'r celfyddydau. 

Cyfleusterau

Gallwn gynnig cyfleusterau, adnoddau ac offer gwych i'ch helpu ar bob un o'n modiwlau. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • stiwdio deledu ac oriel 
  • ein sinema bwrpasol ein hunain 
  • cyfleusterau tros-seinio sain a graddio lliw 
  • gweithle golygu cydweithredol 
  • labordy ôl-gynhyrchu 
  • labordy ffilm analog 
  • ystod eang o offer camera a sain safonol y diwydiant  
  • lensys, goleuadau ac offer grip 
  • cyfleusterau gwisgoedd  
  • tair ystafell ymarfer fawr â chyfarpar da 
  • tair stiwdio berfformio â chyfarpar llawn 
  • stiwdio golygfeydd bwrpasol yng nghanol y dref 
  • y dirwedd o'ch cwmpas: adnodd ar gyfer ysbrydoliaeth greadigol. 

Yn ogystal â hyn, rydym wedi’n lleoli yn agos at y sefydliadau canlynol ac wedi meithrin perthynas agos â hwy:

  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sy'n gartref i theatr prif lwyfan, theatr stiwdio, neuadd gyngerdd, pedair oriel a sinema 
  • Y Llyfrgell Genedlaethol - un o bum llyfrgell adneuon hawlfraint y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Archif Genedlaethol Arbenigol Sgrin a Sain Cymru a'r Archif Ddarlledu Genedlaethol. 

Yn nhref Aberystwyth a'r cylch, mae cyfoeth o leoliadau a safleoedd ar gyfer perfformio a ffilmio, a ddefnyddir gennym gydol y flwyddyn. Mae'r lleoliadau hyn, ynghyd â chyfleusterau Canolfan y Celfyddydau, yn ateb anghenion amrywiol ac eang ein myfyrwyr, ein staff a'n hymarferwyr gwadd. 

 

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn rhoi sylw’n bennaf i astudiaeth o theatr, ffilm, perfformio a'r cyfryngau mewn cyd-destunau diwylliannol hanesyddol, daearyddol a gwleidyddol. Mae'n pwysleisio arloesedd ffurfiol, datblygiadau technolegol ac ymholi rhyngddisgyblaethol.

Rydym yn ddramodwyr, perfformwyr, cyfarwyddwyr theatr, senograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, curaduron, cyfathrebwyr yn y cyfryngau, ac academyddion sy'n gweithio yn y croestoriad rhwng y damcaniaethol a’r ymarferol. Rydym yn rhan o amrywiaeth o gydweithrediadau creadigol cyffrous, yn genedlaethol a rhyngwladol.

Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys perfformiadau safle-penodol; perfformio a'r gymuned wledig; senograffeg perthynol a phethau bob dydd; gofod, lle a thirlun mewn ffilm a theledu yng Nghymru; cyfryngau, perfformio a chwaraeon; perfformiad a phensaernïaeth; dawns ac anabledd; theatr a chyfryngau newydd; ecoleg a materoldeb newydd. Rydym yn cydweithio ag artistiaid, cwmnïau theatr, gwyliau ffilm a chelfyddydol, cwmnïau cynhyrchu, sefydliadau amgylcheddol, archifau, darlledwyr, a llunwyr polisi.

Yn rhan o'n hymrwymiad i gynhyrchu a rhannu ymchwil newydd ac arloesol, rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymchwil bob blwyddyn. Mae ein cyfres barhaus o seminarau ymchwil yn caniatáu i uwchraddedigion, staff a siaradwyr nodedig – gan gynnwys academyddion ac artistiaid – o brifysgolion eraill rannu a datblygu eu hymchwil hwy mewn amgylchedd adeiladol a chefnogol. Mae'r seminarau hyn yn agored i unrhyw un o fyfyrwyr a staff yn y brifysgol a'r tu allan iddi.

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang.

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.