Peirianneg

Mae ar beirianwyr angen y gallu i arbrofi ac arloesi, meddwl yn greadigol, dylunio a datblygu, ynghyd â sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau er mwyn gallu cynhyrchu systemau a strwythurau cymhleth a darparu atebion peirianyddol mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. 

Mewn byd sy'n anelu am sero net, a byd sy’n ceisio darganfyddiadau meddygol a gwelliannau technolegol parhaus i’r dyfeisiau a’r systemau a ddefnyddiwn bob dydd, mae sgiliau ym maes peirianneg drydanol ac electronig yn hanfodol sy’n golygu fod graddedigion yn y maes hwn yn hynod gyflogadwy.

 

 

  • Mae’r Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Pam astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae ein cyrsiau gradd yn cynnig elfen ymarferol gref i'ch arfogi â'r sgiliau proffesiynol ac ymarferol y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle. 
  • Mae ein cyrsiau wedi'u hysgogi gan thema gynaliadwyedd gref fel y gallwch werthfawrogi pwysigrwydd datrysiadau carbon isel ar gyfer ein byd yn y dyfodol a datblygu sgiliau priodol ar gyfer y farchnad ynni adnewyddadwy sy'n tyfu.
  • Byddwch yn astudio modiwlau sy'n amrywio ar draws disgyblaethau ffiseg, cyfrifiadureg a mathemateg i roi sylfaen drylwyr i chi yn y wyddoniaeth sy'n sail i beirianneg.
  • Byddwch yn dysgu pecynnau modelu fel COMSOL a Zemax sy’n sgiliau masnachol y mae galw mawr amdanynt yn enwedig wrth i ni symud tuag at sero net.
  • Bydd gennych ddefnydd o labordai addysgu ac ymchwil sy’n llawn cyfarpar.
  • Mae ein graddau ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant i sicrhau eich bod gam ar y blaen wrth ichi ymuno â’r farchnad swyddi pan fyddwch yn graddio. 
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan staff a darlithwyr sy'n weithgar ym maes ymchwil sydd â chysylltiadau agos â diwydiant.
  • Mae ein graddau yn cynnig cyfleoedd gyrfa rhagorol, felly gallwch ymuno â'r proffesiwn â’r wybodaeth a'r sgiliau priodol.

Cyflogadwyedd

Mae Peirianneg yn un o’r technolegau galluogi allweddol ledled y byd ac mae’n ddewis gyrfa ysgogol a gwerthfawr.  Mae ein pwyslais cychwynnol ar Beirianneg Drydanol ac Electronig yn rhoi cyfleoedd cyflogaeth rhagorol o fewn y diwydiannau technoleg werdd, diwydiannau awyrofod a moduro, mewn cyfathrebu a rhwydweithio, telathrebu ac amddiffyn, gwyddor bywyd, deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, yn ogystal ag ym maes newydd Rhyngrwyd Pethau.  

 






Cyfleusterau

Byddwch yn defnyddio offer a phecynnau efelychu fel COMSOL, MATLAB Simulink a Zemax i hogi eich sgiliau i greu cysyniadau a modelu mewn dosbarthiadau ymarferol.  Bydd hyn yn eich galluogi i fodelu systemau/dyluniadau a gwneud y gorau o ddulliau gweithredu cyn cymryd y camau costus i adeiladu.   Bydd y sgiliau allweddol hyn yn eich paratoi ar gyfer y byd masnachol sy'n symud yn gyflym lle mae gofynion cyson ar effeithlonrwydd ynni a gwahaniaethu masnachol. 

Mae ein labordai'n cynnwys Labordy Nodweddu Deunydd, Labordy Ffiseg Deunyddiau, labordai Sbectrwm a ffotoneg.   Bydd labordy newydd ar gael o fis Medi 2025 wedi'i uwchraddio a'i foderneiddio â gweithfannau cyfrifiadurol newydd.

Mae'r Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol (NSC) yn fenter flaenllaw gan Brifysgol Aberystwyth i ymchwilio a chymhwyso technegau sbectrwm newydd (cyfathrebu yn bennaf) fel y gall diwydiant a’r maes academaidd gael gwir effaith.   Mae labordy ffotoneg newydd yn cael ei sefydlu â’r themâu ymchwil cychwynnol fydd canfod firysau arloesol, ocsimetreg, mesureg a rhwydweithiau optegol.   Mae rhwydweithiau diwydiannol sefydledig yn ei gwneud hi’n bosib i ymchwil gael effaith ehangach yn ogystal â galluogi rhyngweithio ystyrlon gan fyfyrwyr a lleoliadau mewn diwydiant. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.