Astudiaethau Celtaidd

Ydych chi'n dymuno astudio’r Gymraeg ar y cyd ag ieithoedd Celtaidd eraill, gan gynnwys yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban, a Llydaweg? Ymunwch â ni yma yn Aberystwyth ac fe gewch astudio llenyddiaeth yr ieithoedd hyn, o'r oesoedd canol i'r cyfnod cyfoes; cewch ddarllen testunau yn ieithoedd yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar; a chewch wella eich sgiliau llafar ac ysgrifennu yn yr ieithoedd modern. Cewch hefyd ddysgu am ieithoedd a diwylliannau'r hen Geltiaid, a sut y bu iddynt gyfrannu at greu Ewrop fodern. Mae astudio diwylliant mewn modd rhyngddisgyblaethol yn ein hannog i ddeall ein hunain, eraill, a'r byd o'n cwmpas yn well. 

 
Mae’r ardal hon yn un o gadarnleoedd y Gymraeg ac yn gyforiog o hanes. Mae’n cynnig amgylchedd lle mae ddoe, heddiw ac yfory’n cyfarfod. Y cyfuniad hwn sy’n creu’r cefndir a’r ddeinameg arbennig ar gyfer ein bywyd academaidd a chymdeithasol ac sy’n gwneud yr Adran, ac Aberystwyth, yn fan delfrydol i astudio rhai o ieithoedd hynaf Ewrop. 

  • Enw da yn rhyngwladol Mae'r adran ymhlith y rhai sydd â'r amgylchedd academaidd ac ysgolheigaidd bywiocaf yn y byd ym maes Astudiaethau Celtaidd. 
  • Ar y brig yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ac Ansawdd y Dysgu ym maes Astudiaethau Celtaidd (Canllaw Prifysgolion Da, Y Times a'r Sunday Times 2022).
  • Cyfle i ddefnyddio Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar unrhyw adeg, a hithau ar stepen drws Campws Penglais. 

Pam astudio Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Lleoliad heb ei ail - Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd Elenydd, byddwch yn rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion - y lle delfrydol i astudio hanes a threftadaeth cyfoethog y Celtiaid a'u hardaloedd yn fwy eang.
  • Arbenigwyr - Mae'r adran yn ganolfan ymchwil a chanddi enw da yn rhyngwladol, ac yn gartref i dîm o arbenigwyr ysbrydoledig sy'n arwain y byd ym maes iaith a llenyddiaeth Gymreig a Gwyddelig. 
  • Ieithoedd Celtaidd eraill - Cewch gyfle i ddysgu Gaeleg yr Alban a Llydaweg yn ogystal â'r llenyddiaeth gysylltiedig. 
  • Dewis eang – Cewch ddewis o blith ystod o fodiwlau hynod ddiddorol sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil cyfredol ein darlithwyr. 
  • Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cewch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Mae UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a chymdeithasau i'r rhai sy'n dymuno bod yn rhan o'r gymuned Gymreig ehangach. 

Cyflogadwyedd

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o'r  cwricwlwm Astudiaethau Celtaidd sydd ar gael i'n myfyrwyr. Gyda'n dewis eang o fodiwlau, ein nod yw meithrin y sgiliau canlynol:

  • sgiliau beirniadol 
  • sgiliau dadansoddol 
  • sgiliau creadigol 
  • medusrwydd ieithyddol. 

Bydd ein modiwlau yn:

  • atgyfnerthu'ch Cymraeg neu un arall o'r ieithoedd Celtaidd, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • eich paratoi ar gyfer y farchnad swyddi gystadleuol 
  • hogi'ch gallu i gyfathrebu'n effeithiol 
  • hogi'ch gallu i weithio gydag eraill. 






Cyfleusterau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru - adnodd rhagorol sydd wedi'i lleoli islaw'r Campws. Caiff holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth fynediad am ddim i'r llyfrgell a'i chasgliadau. 
Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd - sefydliad ymchwil wedi’i leoli wrth ochr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

Ymchwil

Ymchwil sy'n llywio holl waith Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac mae ein staff yn arbenigo ar iaith a llên Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill. Rydym yn cynnal seminarau ymchwil agored bob tymor sy’n gyfle i wrando ar arbenigwyr yn y maes a thrafod â phobl sy’n gwirioni’r un fath. 

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2021) cadwodd yr Adran ei henw da am gyhoeddi ymchwil o safon flaengar drwy’r byd, yn ogystal â rhagoriaeth ryngwladol. Barnwyd bod 42% o gyhoeddiadau’r adran yn flaengar drwy’r byd (4*) a 30% yn ‘rhyngwladol ragorol’ (3*). 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang.

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.