Beth yw dyddiadau y flwyddyn academaidd ar gyfer cwrs a addysgir?

Mae mwyafrif helaeth y rhaglenni a addysgir yn dechrau tua diwedd mis Medi bob blwyddyn ac yn para am flwyddyn academaidd lawn.

Yn ogystal â mis Medi, mae'r Brifysgol yn cynnig pwynt derbyn ym mis Ionawr ar gyfer ei chyfres o raglenni MBA.

Mae cyrsiau Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn cychwyn ddiwedd Awst/dechrau Medi bob blwyddyn.

Mae'r dyddiadau derbyn ar gyfer cyrsiau Dysgu o Bell yn amrywio o bwnc i bwnc. Mae lleiafswm o ddau bwynt derbyn bob blwyddyn, fel arfer ym mis Ebrill a mis Medi/Hydref yn dibynnu ar y maes pwnc.