Hunaniaeth a Chenedligrwydd 2024

students chatting away on the promenade in Aberystwyth

Mae honiadau ynglŷn â hunaniaeth ac ymlyniad cenedlaethol wedi dod yn nodwedd fwyfwy pwysig mewn dynameg a dadleuon gwleidyddol dros y blynyddoedd diweddar.

Daw’r ysgol haf hon, yn rhedeg dros dair wythnos o 24 Mehefin i 12 Gorffennaf 2024, ag arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau a chefndiroedd ynghyd i edrych yn fwy manwl ar natur honiadau o'r fath a’u goblygiadau i wleidyddiaeth gyfoes. Drwy gyfuniad o sesiynau a addysgir a theithiau maes, mae'r rhaglen yn rhoi cyfle cyffrous i drafod y materion hyn o safbwynt Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno gan ein Hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yr adran gyntaf o'i math yn y byd.

Mae'r rhaglen hon yn un sy'n arwain at gredydau. Bydd y myfyrwyr yn cael credyd i'w drosglwyddo i'w sefydliad cartref os byddant yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus. Bydd yr elfen academaidd yn golygu cwblhau modiwl 10 o gredydau'r Deyrnas Unedig (3 o gredydau'r Unol Daleithiau) gan gynnwys dyddiadur, cyflwyniad ac aseiniad ysgrifenedig. Bydd y rhaglen yn cynnwys tripiau a theithiau yn ogystal ag amser i ddod i adnabod tref glan môr Aberystwyth, cartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Costau

Gwariant

Costau

Rhaglen 3 wythnos a llety llawn

£2,800

Gostyngiad Prifysgolion Partner ar gael

Holwch os gwelwch yn dda

Pris llety llawn yn cynnwys:

  • Llety ystafell sengl ar y campws
  • Holl ddeunyddiau a gwersi'r cwrs
  • Pob trip a thaith
  • Cefnogaeth tîm Cyfleoedd Byd-Eang, y cydlynydd academaidd a myfyriwr mentora

Ddim yn cael ei gynnwys:

  • Teithio i Aberystwyth
  • Teithio rhyngwladol i Brydain ac yn ôl
  • Yswiriant teithio neu feddygol
  • Costau fisa os yn berthnasol
  • Arian personol i'w wario

Sylwer os gwelwch yn dda, os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen talu costau llawn yr rhaglen er mwyn cadarnhau eich lle.

Cymhwysedd

Mae'r rhaglen yn ddigon eang i ddiddori myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd pwnc. Bydd yn apelio'n arbennig at fyfyrwyr cysylltiadau rhyngwladol, gwleidyddiaeth, astudiaethau cymdeithasol, cymdeithaseg, ond mae myfyrwyr sy'n astudio'r gwyddorau, amaethyddiaeth ac ieithoedd wedi mwynhau'r cwrs yn fawr hefyd. 

Gofynnwn eich bod dros 18 oed, yn astudio mewn coleg neu brifysgol yn barod, gyda Chyfartaledd Pwynt Gradd o 3.0 o leiaf, a'ch bod yn barod ac yn agored i gymryd rhan mewn dadl a thrafodaeth fywiog.

Sut i wneud cais

Mae ceisiadau ar gyfer Haf 2024 nawr ar agor! Cliciwch yma i wneud cais.

Os hoffech ragor o wybodaeth a/neu wneud cais, e-bostiwch bydeang@aber.ac.uk.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1 Ebrill 2024.

Bydd derbyniadau'n cael eu gwneud ar sail dreigl, gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd, gall ceisiadau gau'n gynnar.

Adborth gan gyn-gyfranogwyr

"Roedd pob un o'r tripiau yn amhrisiadwy ac yn cyfoethogi'r profiad o fod yng Nghymru. Roeddwn i'n teimlo y gallwn i ddefnyddio'r hyn yr oeddwn i wedi ei ddysgu yn y dosbarth i syntheseiddio fy nealltwriaeth o'n teithiau. Roedd gallu siarad â phobl, gweld safleoedd sy’n bwysig i Gymru a chael amryfal safbwyntiau o'r hunaniaeth Gymreig yn anhepgor i'm mwynhad."

"Roedd pynciau'r darlithoedd yn eang ac amrywiol ac yn ein dysgu am wleidyddiaeth, diwylliant, cymdeithas a hanes Cymru. ‘Doedd y gwaith academaidd byth yn straen i'w gwblhau na'i reoli, ac roedd y dyddiaduron myfyriol yn ffordd fuddiol o gadw cofnod o'r trip."

"Roedd pawb yn hyfryd ac yn mynd allan o'u ffordd i wneud yn siŵr ein bod yn cael amser da. .... Roedd yr holl athrawon a ddaeth i'n dysgu ni yn dda iawn. Roedd pob un o staff y gwasanaeth yn gynorthwyol ac yn barod eu cymwynas bob amser."