Sut mae'n gweithio?

 

Gallwch ddarllen y cwestiynau a ofynnir amlaf am astudio dramor isod.

I ddarganfod mwy, archebwch apwyntiad gydag ymgynghorydd Cyfleoedd Byd-eang, neu galwch heibio i'n Swyddfa Rithwir. Y swyddfa rithwir yw ein hysbysfwrdd digidol, a'r lle rydym yn postio cyflwyniadau gan brifysgolion partner, yn ogystal â gwybodaeth bellach, a chyfleodd byr/haf. Anfonwch neges at bydeang@aber.ac.uk a byddwn yn hapus i ganiatai mynediad i chi.

Pwy all fynd a phryd?

  • Gall myfyrwyr ar y mwyafrif o raddau fynd dramor am semester yn eu hail flwyddyn astudio. Gwiriwch â’ch adran os yw astudio dramor yn bosibl o fewn eich cynllun gradd. 
  • Mae myfyrwyr ar radd gyda blwyddyn integredig dramor yn mynd dramor yn eu trydedd flwyddyn astudio.
  • Mae myfyrwyr ar radd Ieithoedd Modern yn byw dramor yn eu trydedd flwyddyn, ac yn astudio neu'n gweithio yng ngwledydd eu prif ieithoedd astudio.
  • Gall myfyrwyr ar radd gyda thrydedd flwyddyn integredig mewn diwydiant wneud rhan neu'r flwyddyn gyfan dramor, os bydd eich adran yn ei gymeradwyo. 
  • Gall myfyrwyr o unrhyw flwyddyn ac ar unrhyw radd fynd ar Raglen Fer.

Ble alla i fynd?

Mae gan Brifysgol Aberystwyth bartneriaid ledled y byd. Mae gennym adran gyfan ar wahân ynglŷn â ble y gallwch chi fynd. Dechreuwch trwy ddewis eich adran cyn dilyn y dolenni drwodd i dudalennau gwe ein prifysgolion bartner. Rydym yn eich annog i ymchwilio i nifer o gyrchfannau a dewis tri, oherwydd mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ym mhob un.

Pam ydyn ni’n gofyn i chi ddewis tair prifysgol?

Gall y broses ymgeisio ar gyfer astudio dramor fod yn gystadleuol. Mae gan rai o’n partneriaid eu gofynion eu hunain o ran graddau. Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ganddynt hefyd, felly gofynnwn i chi ddewis eich tri hoff gyrchfan. Os oes partner yr ydych yn gymwys amdano wedi’i ordanysgrifio, byddwn yn defnyddio proses ddethol yn seiliedig ar eich safle academaidd yn PA. Rydym hefyd yn edrych ar eich cynllun gradd ac addasrwydd eich dewisiadau. Gyda’ch cymorth chi a chymorth eich cydlynydd adrannol, byddwn yn eich paru â’r dewis gorau posibl ar gyfer eich pwnc astudio.

Sut mae'n gweithio'n academaidd?

  • Os ydych chi'n astudio mewn prifysgol bartner rydych chi'n dewis o 30 credyd ECTS y semester o'r modiwlau sydd ganddyn nhw (sy'n cyfateb i 60 credyd Prifysgol Aberystwyth). Ni fydd y credydau hyn yn cyfrannu at eich graddau cyffredinol yn Aberystwyth ond mae angen i chi basio'r semester neu'r flwyddyn. Trosglwyddir eich credydau a astudir dramor ar sail pasio / methu. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw'n effeithio ar eich cyfartaledd PA, ond mae'n rhaid i chi basio'r nifer cywir o gredydau i gyflawni eich gofynion gradd.
  • Os ydych chi'n astudio dramor yn eich ail flwyddyn, mae'r dewis modiwl yn bwysig iawn a gallai gyfyngu ar eich dewis o leoliadau sydd ar gael. Er na fyddwch yn ychwanegu unrhyw amser at eich gradd trwy ddewis astudio dramor yn eich ail flwyddyn, bydd yn rhoi pwysau trymach ar eich graddau yn semester Aberystwyth y flwyddyn honno.
  • Os ydych chi'n fyfyriwr Anrhydedd ar y Cyd mae angen i chi fod yn arbennig o ofalus gyda'ch dewisiadau modiwl a siarad â Chydlynwyr Cyfnewid Adrannau o'r ddwy adran i sicrhau eich bod chi'n cyflawni'r credydau gofynnol ar gyfer pob un.
  • Mae astudio ar leoliad dramor integredig, yn eich trydedd flwyddyn, yn rhoi'r hyblygrwydd mwyaf posibl i chi o ran yr hyn y gallwch ei astudio.
  • Efallai y bydd eich adran yn gofyn i chi gwblhau rhywfaint o waith wedi'i asesu neu bortffolio yn ystod eich amser dramor. Gallwch gadarnhau'r manylion ynghylch sut y bydd eich amser dramor yn cael ei asesu gyda'ch Cydlynydd Cyfnewid Adrannol y gallwch ddod o hyd i'w fanylion o dan y pennawd pwnc perthnasol.

Beth fydd y gost?

  • Pan fyddwch chi ar gyfnewidfa myfyrwyr, rydych chi'n parhau i dalu ffioedd i Brifysgol Aberystwyth a hepgorir ffioedd yn y brifysgol rydych chi'n ymweld â hi.
  • Nid ydych yn talu am lety myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth tra byddwch dramor. Bydd angen i chi wneud cais am lety os ydych chi eisiau byw ar y campws pan ddychwelwch o astudio dramor.
  • Rhaid i chi ystyried cyllidebu ar gyfer teithio, fisa, yswiriant iechyd, llety a chostau byw - gall y rhain amrywio'n fawr yn dibynnu ar y gyrchfan. Darllenwch wefan eich prifysgol letyol yn ofalus. Bydd y tîm Cyfleoedd Byd-eang yn hapus i'ch cynghori.
  • Os ydych chi'n derbyn Benthyciad Myfyriwr gallwch wneud cais amdano fel arfer. Rhowch wybod i'ch cwmni benthyciadau myfyrwyr y byddwch yn astudio dramor unwaith y bydd wedi'i gadarnhau.
  • Byddwn hefyd yn eich cynghori ar unrhyw gyllid sydd ar gael ichi i gefnogi'ch amser dramor.

Oes angen i mi siarad yr iaith?

  • Mae mywafrif o'n prifysgolion partner yn cynnig modiwlau a addysgir drwy Saesneg. Os nad ydych chi'n siarad iaith y wlad sy'n cynnal y cwrs, gwiriwch eu catalog cyrsiau neu restr modiwlau i wneud yn siŵr eu bod yn cynnig digon o gredydau yn eich pwnc a addysgir drwy Saesneg. 
  • Os ydych chi'n mynd i wlad ddi-Saesneg, bydd dysgu hyd yn oed ychydig o'r iaith yn cyfrannu'n fawr at eich profiad a'ch sgiliau ac yn gwneud eich amser dramor yn haws ac yn fwy pleserus. Mae yna lawer o apiau rhad ac am ddim a all eich helpu i ddechrau.
  • Gallwch hefyd ddysgu iaith newydd neu wella sgiliau iaith sy'n bodoli eisoes trwy raglen dysgu gydol oes Ieithoedd Modern Aberystwyth  a / neu'r Llwyfan Cyfnewid Iaith 

Pwy all fy nghynghori?

  • Bydd y tîm Cyfleoedd Byd-eang yn hapus i'ch cynghori ar unrhyw faterion cyffredinol sy'n ymwneud â'ch amser dramor, gan gynnwys teithio, costau, bywyd myfyrwyr dramor a chyrchfannau posibl. Byddwn hefyd yn eich helpu gyda'ch ceisiadau, yn eich helpu i ddeall yr hyn sydd dan sylw, yn eich cadw'n ymwybodol o ddyddiadau cau ac yn mynd ar eich ôl i lenwi ffurflenni angenrheidiol!
  • Mae gan eich adran academaidd hefyd Gydlynydd Cyfnewid Adrannol a fydd yn gyswllt pwysig i'ch cynorthwyo gyda materion acacdemig a'ch tywys wrth ddewis beth i'w astudio yn ystod eich amser dramor. Mae eich Cydlynydd Cyfnewid Adrannol yn gyfrifol am sicrhau y bydd eich dewis modiwl yn y brifysgol bartner yn bodloni gofynion yr adran ar gyfer eich amser dramor. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich Cydlynydd Cyfnewid o dan eich pwnc yn yr adran Ble Alla i Fynd?
  • Os ydych chi'n fyfyriwr blwyddyn ddiwydiannol integredig, mae gan eich adran Gydlynydd Blwyddyn Ddiwydiannol i'ch tywys wrth ddewis lleoliad gwaith ac mae help hefyd ar gael gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd. Mwy am gynnwys lleoliad tramor yn eich blwyddyn integredig mewn diwydiant.

Pryd mae angen i mi wneud cais?

Mae amseriad eich cais yn dibynnu ar pryd rydych chi am wneud eich cyfnod o astudio dramor a pha mor hir rydych chi am fynd.

Os ydych chi am fynd am flwyddyn academaidd lawn neu am y semester cyntaf, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw'r mis Chwefror cyn eich bod chi eisiau mynd. Os ydych chi'n bwriadu astudio dramor ar gyfer yr ail semester y dyddiad cau yw'r mis Mai cyn i chi fynd.

Mae prosesau ymgeisio a therfynau amser yn amrywio'n fawr rhwng gwledydd a phrifysgolion - mae rhai blynyddoedd academaidd prifysgolion yn cychwyn yn llawer cynt na'n rhai ni, felly cysylltwch â ni cyn gynted ag y credwch yr hoffech fynd a gall y tîm eich cynghori'n briodol.

A gaf i newid fy meddwl?


Gallwch, nid yw pethau bob amser yn mynd i gynllun!