Mary Margaret Wooloff (1920-2016)

Roedd Margaret Wooloff yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr (OSA).  Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd Ffrangeg ym 1942 ac enillodd gymhwyster athrawes ym 1943. Ar ôl dysgu ym Mharis am gyfnod ar ôl y rhyfel, dechreuodd ar yrfa ddisglair yn athrawes, a bu'n brifathrawes Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth i Ferched ac Ysgol Cambria y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin (1960-1983).  

Ysgoloriaeth PhD Margaret Wooloff - Manylion y Prosiectau sydd ar Gael i'w Dyfarnu 

Ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys i gael statws ffioedd Cartref (DU) yn unig, mae tair ysgoloriaeth PhD llawn amser ar gael.  Caiff y rhain eu dyrannu i un fesul Cyfadran ac ar sail gystadleuol i dri o'r prosiectau a ddisgrifir yn y Ysgoloriaeth PhD Margaret Wooloff PhD 2023 Manylion Prosiectau. 

Bydd y myfyrwyr sy'n ennill Ysgoloriaeth Margaret Wooloff yn cael grant am hyd at dair blynedd, a fydd yn talu eu ffioedd dysgu hyd at raddfa myfyrwyr cartref (DU), sef £4,712 y flwyddyn (graddfa 2023/24). Bydd lwfans cynhaliaeth o tua £18,622 y flwyddyn* a hawl i wneud cais i gronfa deithio a chynadleddau (uchafswm £500 y flwyddyn*) hefyd yn cael ei roi. Bydd yr ysgoloriaethau'n dechrau ym mis Medi 2023. 

 

Teitl Prosiect 1:Argyfyngau Byd-eang: Ffoaduriaid Cofid a Newid yn yr Hinsawdd

Sut i Wneud Cais 

I gael eu hystyried, rhaid i ymgeiswyr lenwi'r cais PhD llawn ar-lein Ffurflen Gais Ysgoloriaeth PhD Margaret Wooloff

YN OGYSTAL 

Ar ôl llenwi Ffurflen Gais Ysgoloriaeth Margaret Wooloff, dylid ei chyflwyno ar-lein trwy einPorth Derbyn Graddedigion wrth wneud cais.  

I wneud cais PhD llawn, ewch i'n tudalennau cwrs yn gyntaf a dod o hyd i fanylion y cwrs yr hoffech wneud cais amdano.  Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r Dudalen Cwrs o'ch dewis, dewiswch y botwm "Gwneud Cais Nawr" i ddechrau eich cais.  

Bydd y Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig yn gofyn i chi roi eich manylion personol i ni, cadarnhau eich dewis(au) cwrs a lanlwytho dogfennau i gefnogi eich cais.  Sicrhewch eich bod wedi cadw dogfennau ategol ar ffurf PDF ac yn barod i'w lanlwytho i'ch cais ar-lein. 

Ar yr un pryd, dylid anfon Ffurflen Gais Ysgoloriaeth Margaret Wooloff wedi'i chwblhau hefyd fel atodiad drwy e-bost at e-bost at yr Athro Reyer Zwiggelaar (rrz@aber.ac.uk), Pennaeth Ysgol y Graddedigion, gan roi CAIS YSGOLORIAETH MARGARET WOOLOFF yn y llinell destun. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen Telerau ac Amodau Ysgoloriaeth PhD Margaret Wooloff yn drylwyr.  

Unrhyw gwestiynau? 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol am y prosiectau ar y rhestr, cysylltwch â phrif arolygydd y prosiect dan sylw.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drefn o wneud cais i raddedigion, cysylltwch â pg-admissions@aber.ac.uk.