Cyfleoedd i Fyfyrwyr

Mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn gweithio i ddarparu pecyn hyfforddiant amrywiol i fyfyrwyr er mwyn eu cefnogi i ddysgu a datblygu sgiliau i reoli iechyd meddwl a lles, er mwyn eich helpu chi i reoli eich sefyllfa'n well.

Mae platfformau cymorth ar-lein ar gael i'n myfyrwyr i gyd 24 awr y dydd, bob dydd. Cynigir gwasanaeth sgwrsio, asesu a dewisiadau modiwl, dolenni cyswllt i wefan y GIG ac i gyrsiau a gwybodaeth arall sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym hefyd yn cynnig canllawiau fideo byr a arweinir gan yr ymarferwyr, a sesiynau hyfforddi mwy cynhwysfawr y gall y myfyrwyr archebu lle arnynt.

Rhestrir gwybodaeth am ein holl opsiynau hyfforddiant isod a chofiwch fod pob croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw awgrymiadau ynglŷn â ffyrdd defnyddiol o ddatblygu'r gwasanaeth yn y dyfodol.

A-Y o Lles

A-Y o lles

Mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr wedi llunio rhestr o ddolenni cyswllt i apiau, gwefannau, clipiau YouTube, y cyfan er mwyn eich helpu i ddysgu am y materion a allai fod yn effeithio ar eich bywyd bob dydd.

Togetherall

P'un a ydych chi'n ei chael hi'n anodd cysgu, yn poeni am gyfeillgarwch, gorbryder, hwyliau isel neu iselder, gall Togetherall eich helpu

Mae'r gwasanaeth, sydd ar gael am ddim ac yn gyfrinachol i fyfyrwyr Aberystwyth, yn wasanaeth a reolir yn glinigol, a gefnogir gan gymuned o gyfoedion sy'n cynnig help a chyngor amrywiol.

  • Cewch sgwrsio yn ddienw â chyfoedion
  • Cewch gwblhau asesiadau ar gyfer amrywiaeth o broblemau fel gorbryder, iselder
  • Cewch wybodaeth a gallwch ennill sgiliau drwy'r amrywiaeth o gyrsiau hunangymorth sydd ar gael:
    • Cysgu'n Well
    • Rhoi'r gorau i smygu
    • Hyfforddiant pendantrwydd
    • Rhoi'r Gorau i Oedi
    • Cadw cydbwysedd yn feddyliol
    • Rheoli Dicter
    • Rheoli straen a gofid
    • Rheoli iselder a hwyliau isel.

Cwrs Rheoli Straen ar-lein gan Dr Jim White

Mae Stress Control yn gwrs pedair sesiwn. I bobl sydd eisiau dysgu gwell ffyrdd o ymdopi â'u problemau, megis iselder, gorbryder, panig, diffyg cwsg a hunanhyder isel. Mae'r cyrsiau rheoli straen ar gael nawr ar-lein ac maent yn darparu amrywiaeth o adnoddau megis technegau ymlacio ac ymwybyddiaeth fyfyriol er mwyn helpu i reoli straen, yn ogystal â modiwlau'r cwrs.

Cwrs Bywyd ACTif

Bywyd Actif – Cwrs am ddim ar-lein

Ydych chi eisiau dysgu am eich meddwl, a’r sgiliau i’ch helpu i reoli meddyliau a theimladau anodd?  Gallai’r cwrs am ddim ar-lein gan yr athro seicoleg Neil Frude, ‘Bywyd Actif’, sydd ar gael trwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, eich helpu.

Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng 4 fideo tua 40 munud o hyd.  

  • Act 1: Nid chi yw eich meddwl
  • Act 2: Wynebu eich bywyd
  • Act 3: Bod yn ystyriol
  • Act 4: Byw’n ddoeth, byw’n dda

Amserlen Cyflwyno Myfyrwyr 2022-2023

Cyflwyniadau ar sail tystiolaeth, wedi'u datblygu a'u cyflwyno gan ymarferwyr cymwys i'ch helpu chi i reoli eich sefyllfa. Gallwch archebu lle ar y rhain trwy ymweld â thudalen we Gwasanaeth Lles Myfyrwyr PA.