Cyfweld Ysgogiadol

2x ddigwyddiad hyfforddi undydd gyda'r darparwr allanol Sandy Francis MA (Seicoleg), BACP (achrededig) MINT. Gellir archebu drwy'r GDSYA https://stafftraining.aber.ac.uk/sd/list_courses.php

Rhan Un - Cyflwyniad rhagarweiniol i Gyfweld Ysgogiadol - cwrs byr o bell a gynlluniwyd i'w gwblhau gan gyfranogwyr pan fo'n gyfleus iddynt. Cyn mynychu rhan dau a rhan tri. Mae yna 6 o wersi ar-lein tua 30 munud o hyd i chi eu cwblhau yn eich amser eich hun.

Rhan Dau - Gweithdy ymarfer sgiliau 3 awr dros Zoom.

Rhan tri - Gweithdy dewisol ar ffurf gweminar i ddatblygu arferion cyfredol a chynnal sgiliau. Gyda mynediad cyfredol i'r deunyddiau cyflwyniadol am 6 mis.

Canlyniadau dysgu:

Rhan Un:

  • Bydd modd i gyfranogwyr egluro sut y daeth yr arfer o Gyfweld Ysgogiadol i fod.
  • Bydd cyfranogwyr yn gwybod beth yw amcanion Cyfweld Ysgogiadol.
  • Bydd cyfranogwyr yn gwybod am yr amrywiaeth o sefyllfaoedd lle caiff Cyfweld Ysgogiadol ei ddefnyddio ar hyn o bryd.
  • Bydd cyfranogwyr yn deall effeithiolrwydd Cyfweld Ysgogiadol fel y caiff ei bennu gan astudiaethau ymchwil.

Rhan Dau:

  • Bydd cyfranogwyr yn deall model sylfaenol yr arfer o Gyfweld Ysgogiadol.
  • Bydd modd i gyfranogwyr feirniadu eu harferion Cyfweld Ysgogiadol eu hunain
  • Bydd cyfranogwyr yn gwybod sut i drefnu a datblygu arferion a chymorth gan gymheiriaid mewnol.
  • Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gael mynediad i gymorth hyfforddi a sail ymarfer/gwybodaeth ddatblygol Cyfweld Ysgogiadol.

Rhan Tri:

  • Bydd modd i gyfranogwyr feirniadu eu harferion Cyfweld Ysgogiadol eu hunain
  • Bydd cyfranogwyr yn gwybod sut i drefnu a datblygu arferion a chymorth gan gymheiriaid mewnol.
  • Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gael mynediad i gymorth hyfforddi a sail ymarfer/gwybodaeth ddatblygol Cyfweld Ysgogiadol