Togetherall

togetherall - Help am ddim ar gyfer iechyd meddwl

Mae Big White Wall wedi newid eu henw yn ddiweddar i Togetherall ond maent yn cynnig yr un gwasanaeth i Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Os ydych chi wedi agor cyfrif gyda Big White Wall, mae'n dal yn bosib ichi fewngofnodi â'r un manylion.

P'un a ydych chi'n ei chael hi'n anodd cysgu, yn poeni am gyfeillgarwch, gorbryder, hwyliau isel ac iselder, gall Togetherall helpu.

Mae Togetherall yn wasanaeth cyfrinachol sydd ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae'n wasanaeth a reolir yn glinigol ac fe'i cefnogir gan gymuned o gyfoedion sy'n cynnig help a chyngor amrywiol.

  • Cewch sgwrsio â chyfoedion yn ddienw
  • Cewch gwblhau asesiadau ar gyfer amrywiaeth o broblemau megis gorbryder neu iselder
  • Cewch wybodaeth a sgiliau drwy'r amrywiaeth o gyrsiau hunangymorth sydd ar gael:
    • Cysgu'n Well
    • Rhoi'r gorau i smygu
    • Hyfforddiant pendantrwydd
    • Rhoi'r Gorau i Oedi
    • Cadw cydbwysedd yn feddyliol
    • Rheoli Dicter
    • Rheoli straen a phryder
    • Rheoli iselder a hwyliau isel.