Cwestiynau Cyffredin
Eisiau siarad â rhywun?
Mae amrywiaeth o leoedd y gallwch chi fynd i gael sgwrs, ac mae llawer ohonynt ar gael 24 awr y dydd, bob dydd, felly does dim angen i chi deimlo eich bod chi ar eich pen eich hun. Mae siarad yn helpu.
- Rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo - gall siarad â rhywun fod yn help mawr.
- Togetherall P'un a ydych chi'n ei chael hi'n anodd cysgu, yn poeni am gyfeillgarwch, gorbryder, hwyliau isel neu iselder, gall BWW eich helpu. Mae'r gwasanaeth, sydd ar gael am ddim ac yn gyfrinachol i fyfyrwyr Aberystwyth, yn wasanaeth a reolir yn glinigol ac a gefnogir gan gymuned o gyfoedion sy'n cynnig amrywiaeth o help a chyngor.
- Y Samariaid llinell gymorth ar gael bob awr o'r wythnos, ddydd a nos - Ffoniwch: 116 123, Llinell Gymraeg 0300 123 3011 E-bost jo@samaritans.org.
- MIND
- Student Minds
- Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr
Beth os ydw i'n poeni am rywun?
Sut mae defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol y GIG?
Mae'n bosib bod gennych chi gyflwr iechyd meddwl yn barod, neu efallai yr hoffech chi gael cymorth â phroblemau sy'n datblygu.
Rydym yn cynghori bod myfyrwyr yn sicrhau eu bod yn dod i'r brifysgol â digon o'r feddyginiaeth sy'n cael ei rhoi iddynt ar bresgripsiwn, ac yn gwneud yn siŵr eu bod wedi trafod cael cefnogaeth yn ardal Aberystwyth gydag unrhyw wasanaethau y maent yn eu defnyddio yn ôl gartref. Gallwch hefyd gysylltu ag ymarferwyr y Gwasanaeth Lles os hoffech chi gael mwy o gymorth.
- Gweld Meddyg - Bydd cofrestru gyda meddyg teulu lleol yn eich helpu chi i gael cyngor a thriniaeth iechyd. Mae'n bosib y bydd angen i chi gael eich cyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl.
- MIND - Mae Mind yn cydweithio â meddygon teulu er mwyn cynnig Gwasanaeth Monitro Gweithredol. Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Lleol (IAWN)
- Ar gyfer mân broblemau iechyd meddwl a phroblemau canolig e.e. straen, hwyliau isel/iselder, gorbryder. Ar hyn o bryd, rhaid ichi gael eich cyfeirio gan feddyg teulu, ond mae amrywiaeth o gyrsiau y gellir hunangyfeirio iddynt, ynghyd â llenyddiaeth hunangymorth, hefyd ar gael yn aml.
- Canolfan Iechyd Meddwl Cymunedol - Ar agor yn ddyddiol er mwyn asesu unrhyw broblem iechyd meddwl gan gynnwys argyfyngau a phroblemau brys: Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Dyfed, SY23 1HB, ffôn 01970 615448.
Sut mae cael cymorth ar unrhyw awr o'r wythnos?
- Togetherall: P'un a ydych chi'n ei chael hi'n anodd cysgu, yn poeni am gyfeillgarwch, gorbryder, hwyliau isel neu iselder, gall BWW eich helpu. Mae'r gwasanaeth, sydd ar gael am ddim ac yn gyfrinachol i fyfyrwyr Aberystwyth, yn wasanaeth a reolir yn glinigol ac a gefnogir gan gymuned o gyfoedion sy'n cynnig amrywiaeth o help a chyngor.
- Y Samariaid: llinell gymorth ar gael bob awr o'r wythnos, ddydd a nos - Ffoniwch: 116 123, Llinell Gymraeg 0300 123 3011 anfonwch e-bost at jo@samaritans.org.
- Dr Jim White Stress Control: cwrs pedair sesiwn. I bobl sydd eisiau dysgu gwell ffyrdd o ymdopi â'u problemau, megis iselder, gorbryder, panig, diffyg cwsg a hunanhyder isel. Mae'r cyrsiau rheoli straen ar gael ar-lein ac maent yn darparu amrywiaeth o adnoddau megis technegau ymlacio ac ymwybyddiaeth fyfyriol er mwyn helpu i reoli straen, yn ogystal â modiwlau'r cwrs.
- Student Minds: Rhoi'r grym i fyfyrwyr ac aelodau o gampws y Brifysgol edrych ar ôl eu hiechyd meddwl eu hunain, i gefnogi eraill ac i newid pethau. Eu nod yw trawsnewid iechyd meddwl myfyrwyr er mwyn i bawb sydd mewn addysg uwch gael ffynnu.
- Get Self Help: Fideos ac adnoddau iechyd meddwl a lles y gellir eu lawrlwytho
- A-Y o dudalennau lles: Mae A-Z Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn rhannu dolenni i wefannau, apiau, clipiau YouTube, a ddolenni i gyrsiau ar gyfer unrhyw faterion sy'n gysylltiedig â'ch lles.
Pa gymorth sydd ar gael i fyfyriwr sy'n cael diagnosis o Gyflwr Iechyd Meddwl?
Gall unrhyw fyfyriwr sydd â Chyflwr Iechyd Meddwl hirdymor fanteisio ar gyngor gan y Gwasanaeth Hygyrchedd, sy'n rhan o'r gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd. Gallant roi cyngor ar yr amrywiaeth o opsiynau cymorth sydd ar gael er mwyn helpu i ateb anghenion unigol, fel y gallwch gyrraedd eich llawn botensial. I gael rhagor o wybodaeth am lety wedi'i addasu, mynediad i fannau dysgu, offer, meddalwedd a threfniadau arholiadau, gweler tudalennau'r Gwasanaethau Hygyrchedd.
Mae gan Wasanaeth Lles y Myfyrwyr Fentoriaid Iechyd Meddwl Arbenigol sy'n gweithio gyda myfyrwyr sydd â diagnosis o gyflwr iechyd meddwl hirdymor, neu gyflwr newydd, er mwyn eu helpu i gadw ar y trywydd iawn gyda'u hastudiaethau. Caiff y gwasanaeth Mentora Iechyd Meddwl ei ariannu drwy Lwfans Myfyrwyr Anabl. I weld a ydych yn gymwys, mynnwch air â'r tîm Hygyrchedd ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu tudalennau gwe:
E-bost: anabledd@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 621761 neu 622087
Beth sy'n digwydd yn Apwyntiad Adnoddau'r Gwasanaeth Lles?
Ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen gofrestru ar-lein, bydd Ymarferydd Lles yn anfon e-bost atoch i awgrymu rhai llwybrau cymorth a'ch gwahodd i drefnu Apwyntiad Adnoddau.
Bydd apwyntiad adnoddau'n digwydd gydag ymarferydd cymwysedig a bydd yn para rhwng 30 a 45 munud. Mae hwn yn gyfle i chi siarad am eich anawsterau presennol a bydd yr ymarferydd yn asesu unrhyw angen penodol wrth i chi lunio cynllun gweithredu o atebion posibl gyda'ch gilydd. Bydd y cynllun gweithredu y cytunir arno yn cael ei anfon atoch chi mewn e-bost ar ôl yr apwyntiad.
Mae'n bosib mai mynychu ail apwyntiad gydag ymarferydd fydd un o'r camau y cytunwyd arnynt, er mwyn gweld sut y bydd pethau'n mynd ar ôl i chi gychwyn ar y camau hyn.
Neu, mae'n bosib y bydd angen gwasanaeth cwnsela neu gymorth iechyd meddwl arnoch chi, a gallwn eich cyfeirio at yr unigolyn priodol o fewn y gwasanaeth.
Neu, mae'n bosib y bydd angen gwasanaeth mwy arbenigol arnoch chi sydd ar gael tu allan i'r brifysgol. Bydd yr ymarferydd yn hapus i egluro sut y gallwch gysylltu ag unrhyw wasanaeth arbenigol.
Mae croeso i fyfyrwyr gysylltu â ni ar unrhyw adeg ar ôl eu hapwyntiad er mwyn cael mwy o help a chyngor. Ond, os oes peth amser ers i chi gofrestru am y tro cyntaf, gallai fod yn ddefnyddiol i chi lenwi ffurflen arall ar-lein, er mwyn i'r ymarferydd fod yn ymwybodol o unrhyw wahanol anghenion a allai fod angen sylw.