Pryderon ynghylch myfyriwr
Siartiau Llif Iechyd Meddwl
Mae ein siartiau wedi eu cynllunio i'ch helpu i benderfynu ar y llwybr cymorth gorau i'w ddilyn. Gall chwilio am help a chyngor ynglŷn â phryderon helpu i sicrhau bod y cymorth iawn ar gael heb oedi.
Ffurflen mynegi pryder ar-lein
Gallwch roi gwybod i ni os ydych chi'n pryderu ynglŷn â rhywun arall. Llenwch y ffurflen mynegi pryderon er mwyn rhoi manylion i ni ynglŷn â'r pryderon, a bydd aelod o'r staff yn cysylltu a chi i gynghori ar y ffordd orau o symud ymlaen.
Gallwch hefyd fynegi pryder drwy:
- E-bost: studentwellbeing@aber.ac.uk
- Ffôn: 01970 621761 neu 01970 622087
Mae cymorth ar gael hefyd os yw'r pryderon yn effeithio ar eich lles chi. Gall y myfyrwyr lenwi ein ffurflen gofrestru ar-lein i drefnu apwyntiad gyda chynghorydd. Fel arall gallwn eich cefnogu trwy Togetherall, ein A-Y o dudalennau lles neu Care First.
Addasrwydd i fynychu'r Brifysgol
Weithiau gall cyflwr meddygol dros dro neu dymor hir effeithio ar allu myfyriwr i gymryd rhan lawn yn ei astudiaethau, ac mae'n bosib y gallai effaith hyn ar eraill beri pryder. Bydd canllawiau Addasrwydd i Fynychu'r Brifysgol yn rhoi arweiniad i chi ar y camau cynnar y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn cynorthwyo myfyriwr pan fo pryderon, a llwybrau cyfeirio os oes angen.
- Penderfynu ar Addasrwydd Myfyriwr i Fynychu'r Brifysgol
- Addasrwydd i Fynychu'r Brifysgol - Canllaw i'r Staff
Croesawir unrhyw drafodaeth ynglŷn â phryderon ynghylch addasrwydd i fynychu'r brifysgol gan ein Hymarferwyr. Maent yma i'ch helpu chi a'r myfyriwr gyda'r broses hon. Rydym yn annog pobl i ymateb yn brydlon i bryderon cynnar, er mwyn helpu i ddatrys problemau a threfnu'r cymorth mwyaf priodol lle bo hynny'n bosib.