Trefn Ddyddiol

Siart cylch yn cynnwys segmentau hafal ar gyfer Cyflawni, Cysylltu a MwynhauGall cynllunio ein trefn ddyddiol fod yn hynod o ddefnyddiol am sawl rheswm. Gall ein cynorthwyo i gyflawni’r hyn y mae arnom eisiau ei wneud a’r hyn y mae’n rhaid inni ei wneud! Yn aml, pan fydd pethau’n newid, gall fod yn anodd dychwelyd at ein trefn ddyddiol. Er enghraifft, yn achos dysgu cyfunol pan fo angen strwythurau dysgu o bell, neu os bydd rhywbeth brys yn codi ac yn effeithio ar ein trefn ddyddiol.

Mae’r dolenni isod yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn y dylech ei ystyried wrth ddechrau cynllunio eich dyddiau, a’r gwahanol fathau o weithgareddau sy’n ein cefnogi ni fel pobl, megis gweithgareddau sy’n dod ag ymdeimlad o Gyflawni, Cyswllt ag eraill ac/neu Fwynhad.

Gall llawer o weithgareddau gynnig y 3 pheth hyn ynghyd, tra bydd eraill yn cynnig dim ond un ohonynt. Rydym hefyd wedi cynnwys cynllunydd er mwyn eich cynorthwyo â’ch cynlluniau.  

Os ydych yn teimlo yr hoffech siarad ag aelod o’n tîm ynghylch eich trefn ddyddiol, cysylltwch â’n gwasanaeth.  

Cyflawni, Cysylltu, Mwynhau (Saesneg unig): Achieve, Connect, Enjoy (PDF)

Dyddiadur Gweithgareddau (Saesneg unig): Activity Diary (PDF)