Y Gwasanaeth Cymorth Trais a Chamymddwyn Rhywiol

Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Trais a Chamymddwyn Rhywiol yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ar waith i gefnogi myfyrwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan unrhyw fath o gamymddwyn neu drais rhywiol. Nod y gwasanaeth yw darparu lle diogel, cefnogol, lle gall myfyrwyr gael gafael ar gymorth, teimlo eu bod yn cael gwrandawiad ac ystyried yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tîm o Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol (SVLOs) sydd yno i gefnogi myfyrwyr, beth bynnag fu eu profiad nhw – p’un a yw'r camymddygiad neu'r trais rhywiol wedi digwydd yma yn Aberystwyth ynteu rhywle arall neu yn ddiweddar ynteu rhywbryd yn y gorffennol.

Fe fyddan nhw'n trin pawb â sensitifrwydd a pharch. Bydd unrhyw ffordd rydych chi'n dewis bwrw ymlaen yn cael ei pharchu'n llawn. Bydd y tîm yn eich cefnogi ar ba lwybr bynnag sy'n gweithio orau ichi. Byddan nhw’n ymdrin â'ch datgeliad yn gyfrinachol ac yn parchu’ch penderfyniadau – maen nhw yma i wrando arnoch chi a'ch cefnogi chi. Maen nhw'n dîm sy'n cael ei arwain gan oroeswyr, sy'n golygu y byddan nhw'n gwrando ac yn eich helpu i benderfynu beth sydd angen arnoch chi wrth symud ymlaen. Fyddan nhw ddim yn gwneud ichi roi gwybod i'r heddlu os nad dyna rydych chi ei eisiau. Fyddan nhw ddim yn gwneud ichi rannu unrhyw fanylion os nad ydych chi'n barod i wneud hynny. Gallan nhw helpu os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch astudiaethau a/neu agweddau eraill ar eich profiad myfyriwr, a gallan nhw siarad drwy'r gwahanol opsiynau cymorth sydd ar gael ichi.

Sut mae'r Gwasanaeth yn Gweithio?

Mae'r gwasanaeth yno i gynnig cefnogaeth heb fynegi barn, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael cyfle i bwyso a mesur yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw er mwyn gwneud penderfyniadau wrth eu pwysau a’r rheiny’n benderfyniadau sy'n iawn iddyn nhw.

 

Beth i'w ddisgwyl gan y gwasanaeth:

  • Gwrando ar eich stori (cymaint neu gyn lleied ag yr hoffech ei rannu neu'n teimlo eich bod yn gallu ei rannu)
  • Eich helpu i ystyried yr opsiynau sydd ar gael ichi a'ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus am yr hyn yr hoffech ei wneud nesaf
  • Dod o hyd i atebion ymarferol i'ch helpu i astudio (gan gynnwys cymorth ynglŷn ag estyniadau neu amgylchiadau arbennig)
  • Hwyluso'r cymorth fel eich bod yn cael eich cadw'n ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel tra byddwch chi ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Eich helpu i lunio cynllun o ran ble rydych chi am fynd nesaf, a gwneud yn siŵr ei fod yn cefnogi’ch anghenion chi
  • Eich helpu drwy broses gwyno a phroses gamymddwyn y brifysgol.

Sut gall Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO) helpu?

Gall SVLO wrando a thrafod yr opsiynau sydd ar gael ichi drwy wasanaethau allanol ac o fewn y brifysgol. Gall eich SVLO penodedig hefyd gysylltu â'r gwasanaethau allanol hyn a staff y Brifysgol lle bo angen a bydd yn rhoi gofal a chefnogaeth 'gofleidiol’ barhaus.

Mae gennych fynediad i gymorth gan SVLO ni waeth a ddigwyddodd y trais rhywiol ar gampws ynteu oddi ar y campws, neu os gwnaethoch chi ddioddef trais rhywiol cyn ichi ddod i Aberystwyth.

Gyda'ch cydsyniad chi, maen nhw’n gallu’ch helpu gyda’r canlynol:

  • Atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl a meddygol
  • Addasiadau academaidd ac addasiadau llety
  • Deall yr opsiynau sydd ar gael ichi o ran rhoi gwybod am bethau
  • Llywio systemau ac adnoddau o fewn y Brifysgol
  • Mynegbostio at gymorth yn yr ardal leol ac ar-lein

Mae pobl yn ymateb i gamymddwyn a/neu drais rhywiol ac yn ymdopi â nhw mewn llawer ffordd wahanol. Bydd unrhyw ffordd rydych chi'n ei dewis ar gyfer bwrw ymlaen yn cael ei pharchu'n llawn.

Rydyn ni wedi llunio rhywfaint o wybodaeth bellach am eich opsiynau a'r camau nesaf i’w cymryd ar ein tudalen 'Cael Cymorth’.

Sut gall Cynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol (ISVA) helpu?

Mae ISVA yn rhoi cymorth a chyngor emosiynol ac ymarferol i unrhyw fyfyriwr sydd wedi profi trais rhywiol, yn ddiweddar neu yn y gorffennol. Gallwch gael mynediad iddyn nhw yn annibynnol ar ein gwasanaeth ni neu gall un o'n SVLOs eich helpu i gysylltu.

Maen nhw’n gallu:

  • Darparu gwybodaeth am y broses cyfiawnder troseddol os ydych chi’n ystyried adrodd beth ddigwyddodd, a'ch helpu i wneud dewisiadau gwybodus am yr hyn sy'n iawn i chi;
  • Esbonio polisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol ynglŷn â chamymddwyn rhywiol;
  • Eich cefnogi chi drwy gydol y broses adrodd;
  • Darparu gwybodaeth am eich hawliau;
  • Cydgysylltu â'r heddlu, y Brifysgol, Gwasanaeth Erlyn y Goron a/neu asiantaethau perthnasol eraill;
  • Mynd gyda chi i gyfarfodydd sy'n ymwneud â'r trais rhywiol rydych chi wedi’i brofi;
  • Rhoi cymorth ac eiriolaeth ymarferol ichi o ran gwasanaethau eraill (e.e. astudiaethau, iechyd rhywiol a chorfforol, iechyd meddwl, ayyb);
  • Eich helpu i gynllunio’ch diogelwch a chael mynediad at gymorth priodol yn y Brifysgol neu yn eich ardal leol (e.e. Lles Myfyrwyr, Gwasanaethau Cwnsela Lleol).

 

Cyfrinachedd

Fel gwasanaeth cymorth myfyrwyr, rydyn ni’n gweithio'n gyfrinachol, sy'n golygu na fyddwn ni’n rhannu unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud wrthon ni gyda'ch Adran Academaidd, eich ffrindiau, eich teulu, na'r heddlu heb eich caniatâd penodol. Efallai y bydd adegau, megis pan fydd myfyriwr neu rywun arall yn wynebu risg sylweddol o gael niwed, lle mae angen inni feddwl am rannu rhywfaint o wybodaeth, ond os bydd hyn yn codi fe fyddwn ni’n trafod hyn gyda chi yn gyntaf.

Sut mae cysylltu?

I wneud apwyntiad, gallwch chi naill ai:

Anfon neges ebost at svlo@aber.ac.uk a byddwn yn dod o hyd i gynghorydd addas a fydd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Does dim angen ichi roi unrhyw fanylion yn eich neges ebost.

Neu fe allwch chi:

Cyflwyno adroddiad i'n system Adroddiad a Chymorth yn Adroddiad a Chymorth - Prifysgol Aberystwyth a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. Mae'r system Adrodd a Chymorth yn caniatáu ichi adrodd gyda'ch manylion cyswllt neu yn ddienw.

Ein Tîm ni

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Trais a Chamymddwyn Rhywiol yn cael ei redeg gan dîm o chwe Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO) sydd wedi'u hyfforddi'n fanwl a Chynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol (ISVA).

Mae’n SVLOs yn gweithio mewn amryw o rolau ar draws ein timau Gwasanaethau Myfyrwyr a Bywyd Preswyl ac maen nhw wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr yn ein cymuned sydd wedi cael eu heffeithio gan Drais neu Gamymddwyn gan fyfyrwyr.

Myfyrwyr sydd wedi’u hadrodd

Rydyn ni’n cydnabod y gall myfyrwyr sy'n astudio yn Aberystwyth gael eu hadrodd am gamymddygiad rhywiol yn ystod blwyddyn academaidd.  Y Tîm Cyngor ac Arian yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr sy’n darparu cymorth i fyfyrwyr sydd wedi’u hadrodd, ac mae prosesau a systemau ar waith i sicrhau nad oes gwrthdaro buddiannau na gorgyffwrdd â'r Gwasanaeth Cymorth Trais a Chamymddwyn Rhywiol.

Mae’r staff sy'n gweithio yn y tîm Cyngor ac Arian ar dir da i roi cyngor ar broses ddisgyblu'r Brifysgol, trafod camau ymarferol, a'ch cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol.