Aber+

Ymgynghorydd Gyrfaoedd a myfyrwyr

Mae Aber+ yn gynllun a luniwyd i helpu myfyrwyr sydd â gwahaniaethau dysgu neu anabledd i gael mynediad i’r amrywiaeth lawn o wybodaeth a chymorth a ddarperir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Mae’r cynllun Aber+ yn un ffordd o baratoi ar gyfer byd gwaith trwy eich helpu i gael mynediad i’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a gwella eich hunan-ymwybyddiaeth, dod o hyd i syniadau gyrfaol, cael cyfleoedd am brofiad gwaith a gwella eich sgiliau i’r gweithle.

Trwy gydol y flwyddyn, mae yna amrywiaeth o weminarau fyw / wedi'i recordio y gallwch gymryd rhan mewn a fydd yn helpu i wella eich sgiliau i’r gweithle. Byddwch yn dod yn fwy cyfarwydd â phopeth sydd gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd i’w gynnig, ac yn cael cynllun gweithredu eglur i gefnogi eich dyfodol proffesiynol.

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd hefyd yn cynnal y rhaglen GO Wales, Cyflawni trwy Brofiad Gwaith  i fyfyrwyr ifainc ar gyrsiau addysg uwch yng Nghymru sy’n wynebu rhwystrau wrth geisio dod o hyd i brofiad gwaith.

Efallai yr hoffech hefyd ymweld â’r dudalen Cydraddoldeb ac Amrywioldeb sy’n cynnwys dolenni i fideos a gwybodaeth am bynciau megis dod o hyd i gyflogwyr cadarnhaol a datgeliad.

 

Sesiynau Aber+ 2021-2022 wedi'u recordio

Datgelu anableddau ac addasiadau

Gwneud cais am lleoliadau neu gynlluniau i raddedigion hefo anabledd

Cyfweliadau ac addasiadau

Sgiliau cyflwyno: Sut i cyflwyno'n effeithiol