Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd
Ynglŷn â'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd
Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau er mwyn eich helpu chi i ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i allu gwneud yn fawr o'ch cyfnod yn y Brifysgol ac er mwyn i chi fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a fydd yn eich paratoi at fywyd ar ôl graddio.
Lle bo hynny'n briodol, mae gan ein staff gymwysterau proffesiynol a/neu maent wedi'u cofrestru neu eu hachredu â'u corff neu gymdeithas broffesiynol.
Mae ein gwasanaethau ar gael i bob myfyriwr sydd wedi'i gofrestru ar gynllun gradd israddedig neu uwchraddedig. Gall rhai gwasanaethau hefyd ddarparu cyngor yn ystod cyfnodau pan fyddwch wedi rhoi'r gorau i astudio yn y Brifysgol, ac mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn rhoi cymorth i fyfyrwyr ar ôl iddynt raddio. Rydym ni hefyd yn cynnig cymorth sydd wedi ei deilwra'n benodol ar gyfer categorïau penodol o fyfyrwyr, fel y rhai sy'n gadael gofal.