Bywgraffiadau o Lysgenhadon Myfyrwyr

Dyma rai o brofiadau ein Llysgenhadon cyfredol... 

Ashley Wilding

2il Flwyddyn; Daearyddiaeth Ddynol

Roeddwn am ddod yn llysgennad myfyrwyr oherwydd roeddwn am roi rhywbeth nôl i’r Brifysgol. Rwy’n mwynhau cyfarfod a siarad â darpar fyfyrwyr a dweud wrthynt mor dda yw Aberystwyth fel prifysgol, ac i sôn am y bywyd myfyriwr anhygoel sydd ar gael yma. Mae bod yn llysgennad myfyrwyr wedi fy ngwneud yn fwy hyderus i siarad â phobl newydd, ac hefyd i fedru arwain grŵp o bobl a delio ag unrhyw ymholiadau.

Emily John

2il Flwyddyn; Astudiaethau Plentyndod

Roeddwn am fod yn Llysgennad Myfyrwyr gan fy mod wir yn mwynhau cyfarfod â phobl newydd a siarad â nhw am y Brifysgol. Fy mhrofiad gorau fel Llysgennad Myfyrwyr oedd tywys taith mewn bws o amgylch y dref. Gan ei bod yn dref mor fach â chymaint i ddweud amdani, fe siaradais yn ddi-dor am 30 munud.

Dimitrinka Zheleva

3ydd Flwyddyn; Marchnata a Rheolaeth

Mwynheais y dydd yn fawr iawn; ateb cwestiynau oedd y rhan orau. Rydym yn tueddi i gymryd gormod o bethau’n ganiataol ar ôl bod yn fyfyrwyr am fwy na blwyddyn - yna mae rhywun yn eich holi am ddarlithoedd neu am lety, ac rydych chi’n gweld faint maen nhw wedi cynhyrfu ynghylch y peth. Mae’n hynod ddiddorol; mae wedi fy ngwneud yn falch bod yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â chyfarfod â rhai pobl anhygoel, rwyf wedi gwella fy sgiliau rhyngbersonol a’m sgiliau arwain tîm. Ac yn y pen draw, dyna'r hyn mae cyflogwyr yn chwilio amdano.