Cynllun Strategol a Chenhadaeth

I'r Ganrif a Hanner Nesaf

Ein Cenhadaeth

I gyflwyno addysg ac ymchwil sy'n ysbrydoli mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac eithriadol yng Nghymru.

Ein Gweledigaeth

Gan adeiladu ar ein cryfderau hanesyddol a’n henw da am ragoriaeth, byddwn yn cyfrannu at gymdeithas yng Nghymru a’r byd ehangach trwy gymhwyso ein gwybodaeth i heriau lleol a byd-eang. Gan weithio o fewn cymuned gefnogol, groesawgar a dwyieithog, byddwn yn defnyddio ein harbenigedd i feithrin meddwl beirniadol, holi annibynnol a sgiliau sy’n ymbaratoi ein myfyrwyr ar gyfer bywydau llwyddiannus.

Ein Gwerthoedd

Trawsnewidiol

Rydym yn ffurfio a meithrin cryfderau personol cadarn sy'n hybu llwyddiant pobl yn y dyfodol. Mae ein cymuned o staff a myfyrwyr yn ysgogi newidiadau cadarnhaol trwy fynd i'r afael â heriau lleol a byd-eang. Rydym yn annog dyfeisgarwch trwy syniadau a gweithrediadau newydd, mewn cyd-destun o fentergarwch. Rydym yn ymdrechu i ddatgloi addewid unigolion.

Creadigol ac arloesol

Rydym yn annog meddwl beirniadol, rhydd a llawn dychymyg. Rydym yn ysgogi canlyniadau unigryw trwy dynnu ar ein diwylliant a'n hanes unigryw ni yng Nghymru, ein hamgylchedd ac adnoddau eithriadol. Rydym yn meithrin dyfeisgarwch staff a myfyrwyr i ddatrys problemau, addasu a bod yn amryddawn.

Cynhwysol

Rydym yn hyrwyddo natur agored a haelioni ysbryd ac yn coleddu'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd i'w deimlo ledled y Brifysgol, yn nhref Aberystwyth a'n byd ehangach. Rydym yn ymfalchïo yng nghyfoeth yr amrywiaeth o ddiwylliannau, athroniaethau a chefndiroedd ymhlith ein staff a'n myfyrwyr.

Uchelgeisiol

Rydym yn gweithio i hybu'r enw da sydd gennym ledled y byd am ddarganfyddiadau, ansawdd addysgiadol ac arloesedd. Rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth mewn ymchwil, addysgu ac ymgysylltiad. Rydym yn dathlu cyrhaeddiadau, cyflawniadau a chyfraniadau ein staff, ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr.

Cydweithrediadol

Mae ein cymuned academaidd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant, i drafodaeth gyhoeddus, ac i'r economi leol ac ehangach. Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr, yn unigolion ac ar y cyd, i sicrhau gwelliannau parhaus i brofiad y myfyriwr a'r amgylchedd dysgu sydd yn Aberystwyth. Fe fynegwn waith a gwerth y Brifysgol i'r byd ehangach ac ymgysylltwn â phobl wrth gyflawni'n gweledigaeth.

Ein Hamcanion Craidd

Ein haddysg a phrofiad myfyriwr

Byddwn yn rhoi’r gallu i’n myfyrwyr i ddatgloi eu potensial a datblygu yn ddysgwyr annibynnol mewn cymuned ddwyieithog sy’n gefnogol, cynhwysol a chreadigol. Wrth raddio, bydd ein myfyrwyr yn feddylwyr beirniadol, annibynnol a chanddynt sgiliau trosglwyddadwy yn ogystal â sgiliau penodol i’w disgyblaeth. Bydd myfyrwyr yn cael manteisio ar ein hymchwil ardderchog trwy brosiectau ymarferol ac addysgu seiliedig ar ymchwil.

Yr hyn a gyflawnwyd gennym ers 2018

  • Arwain y maes am foddhad myfyrwyr (ar y brig yng Nghymru ac ail yn y DU, yn ôl Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)
  • Agor Ysgol Filfeddygaeth gwerth £2.4 miliwn a lansio cynllun gradd newydd Baglor mewn Milfeddygaeth, a gynigir ar y cyd â'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol
  • Gwneud gwaith adnewyddu helaeth mewn mannau dysgu ac addysgu ymhob rhan o’r Brifysgol
  • Agor Canolfan Addysg Iechyd newydd gwerth £1.7 miliwn a chroesawu ein carfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio

Beth rydyn ni’n ei wneud a ble rydyn ni’n mynd

  • Datblygu ein darpariaeth israddedig ac uwchraddedig yn gyson er mwyn cynnig cyrsiau deniadol a safonol sy'n arwain at swyddi ar lefel raddedig
  • Datblygu dysgu ac addysgu blaengar (gan gynnwys dysgu hyblyg) a gydnabyddir yn y sector yn feincnod o'r arfer gorau yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Cyfoethogi ein maes llafur ag ymchwil neilltuol a gyflawnir yn y Brifysgol
  • Datblygu darpariaeth o raglenni cynhwysfawr wedi'u targedu at uwchraddedigion, sy'n ddeniadol i fyfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol
  • Gwreiddio sgiliau cyflogadwyedd yn ein holl raglenni astudio, yn cynnwys mwy o gyfleoedd am brofiad gwaith, gwirfoddoli, profiadau rhyngwladol, a sgiliau trosglwyddadwy eraill
  • Hyrwyddo a hwyluso datblygiad staff mewn addysgeg er mwyn gyrru gwelliannau cyson yn ein profiadau dysgu ac addysgu
  • Gwella profiad myfyrwyr ymhellach, gweithio mewn partneriaeth agos ag Undeb y Myfyrwyr a chadw eu lleisiau wrth galon ein gweithgarwch
  • Cadarnhau ac atgyfnerthu ein system Dadansoddi Dysgu a Thiwtora Personol er mwyn cynorthwyo i feithrin cyswllt â myfyrwyr a’u cadw yn y brifysgol
  • Parhau i gynnal yr enw da cadarn sydd gan y Brifysgol am ragoriaeth addysgu a boddhad myfyrwyr
  • Datblygu partneriaethau, cenedlaethol a rhyngwladol, ehangu dysgu o bell a dysgu hyblyg, a chyflwyno cyrsiau israddedig rhan-amser i ehangu cyfranogiad

Ein hymchwil ac arloesi sy'n cael effaith

Fel sefydliad dwyieithog sy'n cael ei dywys gan ymchwil, byddwn yn cefnogi a datblygu ymchwilwyr fel y gallant ymgymryd ag ymchwil sy'n creu effaith ac sydd o ansawdd gyda'r gorau yn y byd. Byddwn yn adeiladu ar ein cryfderau hanesyddol er mwyn mynd i’r afael â heriau cyfoes sy’n wynebu Cymru a’r byd yn yr 21ain Ganrif. Bydd ein hamcanion ymchwil yn arwain at waith arloesol mewn diwydiant a pholisi cyhoeddus, ac yn cyfrannu at dwf ein heconomi yn lleol ac yn ehangach.

Yr hyn a gyflawnwyd gennym ers 2018

  • Cyflwyno timau ymchwil newydd mewn meysydd megis twbercwlosis buchol a pheirianneg sbectrwm radio, ychwanegu ysgogiad i dimau mewn meysydd megis arsylwi ar y ddaear a dynameg ecosystem, ac annog cydweithio trwy dair cyrchfan ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd
  • Datblygu arweinwyr ymchwil newydd trwy raglen arloesol ar y cyd â Phrifysgol Bangor, cyflwyno pyllau tywod ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau gyrfa, hwyluso rhagoriaeth ymchwil trwy raglenni newydd, gwella cysylltiadau â diwydiant trwy agor ArloesiAber a’r Ganolfan a Labordai Milfeddygol
  • Cyrraedd ein lefel uchaf ers pum mlynedd am ennill grantiau yn 2021/22, ac fe aseswyd yn y FfRhY 2021 bod dros dri chwarter ein hymchwil o safon sy’n arwain y byd neu'n rhagorol ar lefel ryngwladol
  • Llofnodi’r Concordat Datblygu Ymchwilwyr, aelod o chwe phartneriaeth hyfforddiant doethurol, sicrhau ffrydiau cyllido newydd i ymchwilwyr ôl-raddedig, cwblhaodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr DProf eu rhaglenni ymchwil

Beth rydyn ni’n ei wneud a ble rydyn ni’n mynd

  • Cynyddu’r timoedd ymchwil i lefelau digonol mewn meysydd rhagoriaeth diffiniedig trwy gefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol a datblygu’r cydweithrediadau sydd gennym yn ogystal â chreu rhai newydd
  • Datblygu'r staff ar lefel Athro i arwain y gymuned ymchwil trwy gynghori a chefnogi gweithgarwch ymchwil
  • Annog ymchwilwyr yng Nghymru ac yn rhyngwladol i gydweithio
  • Datblygu potensial ymchwil yr holl staff trwy raglenni newydd a ddatblygwyd gan Ysgol y Graddedigion
  • Cynyddu incwm ymchwil trwy wella ein dulliau cefnogi a'n prosesau ar gyfer ceisio am grantiau ymchwil a’u rheoli
  • Cynyddu nifer y myfyrwyr ymchwil trwy amrywio ein ffynonellau ariannu ac ehangu'r rhaglen DProf
  • Buddsoddi i ddatblygu effaith ein hymchwil a galluoedd ein hymchwilwyr o ran mentergarwch
  • Sicrhau bod amser ar gael ar gyfer ymchwil, effaith a chyfnewid gwybodaeth, gan gynnwys caniatáu lwfansau wythnosol ac absenoldeb ymchwil
  • Ehangu a datblygu cysylltiadau â phartneriaid diwydiannol, masnachol a diwylliannol priodol trwy sefydlu'r Ganolfan Ddeialog a thrwy ddatblygu parc gwyddoniaeth yng Ngogerddan

Ein cyfraniad i Gymdeithas

Rydym yn brifysgol ddwyieithog wedi'n gwreiddio yng Nghymru ac yn agored i'r byd. Gwnaethom gyfraniad pwysig i Gymru a thu hwnt o’r cychwyn, gan ddod â manteision i'n cymunedau a'r gymdeithas yn gyffredinol trwy effaith ein hymchwil, ein haddysg, a llwyddiannau ein staff, ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr. Rydym yn trwytho ein graddedigion yn ein hyfforddiant academaidd ac yng ngwerthoedd dinasyddiaeth fyd-eang a chenedlaethol. Deallwn ein cyfrifoldebau, a'n hatebolrwydd, i'r gymdeithas. Rydym yn awyddus i fod yn agored, yn berthnasol a meithrin cysylltiadau â'n cymunedau a'n rhanddeiliaid. Yn anad dim, rhaid i ni gynnig ysbrydoliaeth. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn atgyfnerthu ac yn gwella'n ffordd o fynegi'r agwedd hon ar ein gwaith.

Yr hyn a gyflawnwyd gennym ers 2018

  • Lansio Gŵyl Ymchwil flynyddol, wedi’i hanelu at y cyhoedd a gwleidyddion er mwyn dangos sut y gall ein gwaith gynorthwyo i fynd i'r afael â'r materion sy'n ein hwynebu fel gwlad a phlaned.
  • Cefnogi cymuned Ceredigion yn ystod pandemig COVID-19 trwy ddarparu adnoddau ar gyfer Canolfan Frechu, gwirfoddolwyr ac offer yn ogystal â gwneud addasiadau helaeth i gadw cymuned y Brifysgol yn ddiogel
  • Agor Deorfa ArloesiAber, Canolfan Arloesi, a lansio ystod o gymorth busnes i fentergarwyr, busnesau newydd, cwmnïau deillio a chwmnïau sy'n tyfu er mwyn parhau i gynorthwyo meithrin datblygiad economaidd yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.
  • Codi pedair hectar o baneli solar a fydd yn cynhyrchu tua chwarter anghenion trydan Campws Penglais

Beth rydyn ni’n ei wneud a ble rydyn ni’n mynd

  • Gweithio gydag ysgolion, colegau Addysg Bellach, a chyflogwyr er mwyn gwella dysgu 14 i 19 traws-gwricwla ledled Cymru
  • Trawsnewid Hen Goleg Aberystwyth yn ganolfan bwysig i ddiwylliant, treftadaeth, croeso a menter
  • Parhau i ddarparu rhaglenni diwylliannol, chwaraeon a lles eang trwy ein Canolfan Gelfyddydau, y Ganolfan Chwaraeon, a’r ddarpariaeth Dysgu Gydol Oes
  • Gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid lleol i gynnal y berthynas hanfodol rhwng y dref a’r myfyrwyr sy'n gwneud cymuned Aberystwyth mor groesawgar a chyfoethog ei hamrywioldeb a’i chynhwysiant
  • Defnyddio ein pen-blwydd yn 150 i ddathlu, gyda chyn-fyfyrwyr a'r gymuned yn lleol a ledled y byd, gyflawniadau unigryw coleg Prifysgol cyntaf Cymru
  • Cynorthwyo i dyfu'r economi fel partner yn rhaglen partneriaeth ranbarthol Llywodraeth Cymru, Tyfu Canolbarth Cymru
  • Cyfrannu at seilwaith y rhanbarth trwy rannu adnoddau, megis campws newydd ArloesiAber, â'r gymuned ehangach
  • Dylanwadu ar wleidyddiaeth, diwylliant, economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru trwy gyfrwng yr wybodaeth a'r arbenigedd sydd gennym
  • Canolbwyntio ar geisio datrys heriau cyfoes trwy ein hymchwil a datblygu trafodaeth ar sail tystiolaeth yng Nghymru a thu hwnt
  • Creu arlwy rhyngddisgyblaethol i'r holl fyfyrwyr, gan gynnwys y gymuned leol, i drafod materion ehangach a'u herio i edrych y tu hwnt i ffiniau maes llafur eu cynlluniau gradd eu hunain.

Ymgysylltiad Rhyngwladol

Mae Aberystwyth yn brifysgol flaenllaw yng Nghymru ac mae ganddi enw rhagorol ledled y byd. Byddwn yn ddewis poblogaidd i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno astudio yn ein hamgylchfyd unigryw. Byddwn yn datblygu cytundebau a fydd yn annog ein myfyrwyr i dreulio amser yn astudio dramor. Byddwn yn bartner atyniadol i sefydliadau rhyngwladol sy'n rhannu ein hamcanion a'n dyheadau.

Yr hyn a gyflawnwyd gennym ers 2018

  • Datblygu cynnydd sylweddol yn nifer ein myfyrwyr o India, Nigeria a'r Unol Daleithiau
  • Ehangu'r cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
  • Atgyfnerthu ac ad-drefnu ein partneriaethau rhyngwladol yn yr amgylchedd ôl-Brexit
  • Parhau i chwilio am gyfleoedd rhyngwladol i gydweithio mewn ymchwil a hyrwyddo cynlluniau symudedd ymchwilwyr i Aberystwyth ac oddi yma

Beth rydyn ni’n ei wneud a ble rydyn ni’n mynd

  • Datblygu’r adnodd Dysgu o Bell i fod yn sail i ddarpariaeth o fodiwlau a chyrsiau hybrid a ddysgir o bell
  • Adolygu'r holl gytundebau addysg ac ymchwil er mwyn datblygu partneriaethau â sefydliadau rhyngwladol sy’n fanteisiol i'r ddwy ochr, yn canolbwyntio ar addysg ac ymchwil
  • Cynnal amrywioldeb bywiog ein cymuned trwy gynnig profiad rhyngwladol i bawb, wrth gynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol
  • Datblygu dulliau i ddenu carfannau o uwchraddedigion safonol ac adeiladu ymhellach ar enw da ein rhaglenni Doethuriaeth Proffesiynol.
  • Cloriannu cyfleoedd cyfredol a newydd ar gyfer addysg ryngwladol
  • Cynorthwyo pobl i wella'u sgiliau iaith a sicrhau bod ein myfyrwyr rhyngwladol yn aelodau hyderus o'n cymuned ddiogel a chynhwysol.

Yr iaith Gymraeg a’i diwylliant

Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes cadarn a balch o ddarparu addysg ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn parhau yn ymroddedig i hyrwyddo iaith a diwylliant ein gwlad, yn ogystal â chyfrannu at sicrhau gwell dealltwriaeth am anghenion cymdeithasol-economaidd Cymru. Byddwn yn parhau i wella a chyfoethogi cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i'n staff, ein myfyrwyr ac ymwelwyr.

Yr hyn a gyflawnwyd gennym ers 2018

  • Ailagor Neuadd Pantycelyn yn llety o’r radd flaenaf i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg a myfyrwyr sy’n dysgu’r iaith
  • Cymeradwyo is-strategaeth newydd y Gymraeg sy'n gosod cyfres o nodau ac amcanion yng nghyd-destun datblygu a chyflwyno darpariaeth academaidd Gymraeg
  • Penodi Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd sy'n gweithio gyda Phennaeth yr Adran i ddatblygu darpariaeth arloesol o fewn a thu hwnt i'r adran
  • Ymgorffori mwy o ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac integreiddio diwylliannol mewn perthynas â Chymru ar draws cynlluniau astudio myfyrwyr, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyrsiau newydd, er enghraifft Milfeddygaeth a Nyrsio lle mae i’r ddarpariaeth Gymraeg ran annatod

Beth rydyn ni’n ei wneud a ble rydyn ni’n mynd

  • Parhau i hyrwyddo datblygiad y ddarpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys y Gymraeg fel disgyblaeth
  • Gweithio mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd dysgu Cymraeg, gan gynnwys y cyfleoedd a gynigir trwy gyswllt â Thystysgrif yr Iaith Gymraeg
  • Parhau i ddatblygu portffolio o ysgoloriaethau PhD a gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar draws pob maes pwnc - mae gwobrau diweddar yn cynnwys prosiectau trawsadrannol gan yr Adran Hanes a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ac Addysg a Dysgu Cymraeg
  • Meithrin amgylchedd lle gall myfyrwyr ddewis i fyw a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Sicrhau bod cyfleoedd ar gael yn y Gymraeg mewn meysydd megis lleoliadau gwaith a chynlluniau blwyddyn mewn gwaith
  • Annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith ac annog y staff a'r myfyrwyr fel ei gilydd i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu Cymraeg neu i wella'u Cymraeg
  • Adeiladu ar ein swyddogaeth o ysgogi mwy o ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac integreiddio diwylliannol yng nghyswllt Cymru a'r byd.
  • Parhau i ddarparu dosbarthiadau Cymraeg ar-lein ac wyneb yn wyneb ar draws Ceredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys dosbarthiadau am ddim i bawb rhwng 18-25 oed.

Ein pobl

Ein pobl yw ein hadnodd pennaf ac mae gweithlu medrus, iach ac ymroddedig yn hanfodol er mwyn cyflawni ein strategaeth. Rydym yn gwerthfawrogi ein hacademyddion, ein gweinyddwyr a'r holl staff sy'n cyfrannu at lwyddiant y Brifysgol hon. Rydym wedi ymrwymo i feithrin boddhad, cymhelliant ac ysbryd staff, ac i greu lle cefnogol ac ysbrydoledig i weithio ynddo.

Yr hyn a gyflawnwyd gennym ers 2018

  • Cyflwyno cynlluniau i ddatblygu arweinyddiaeth a rheolaeth, a darparu hyfforddiant sgiliau cynhwysfawr sy'n agored i'r holl staff (dros 500 o leoedd wedi'u llenwi rhwng Ionawr 2022 a Ionawr 2023)
  • Llunio Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol manwl yn rhan o'n hymrwymiad i amrywioldeb ein gweithlu
  • Cynnal arolygon staff i feithrin gwell cysylltiadau rhwng y staff a’r Brifysgol
  • Penodi darparwr newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd galwedigaethol, sy’n ein rhoi mewn sefyllfa i roi cymorth yn gynt mewn achosion o absenoldeb staff

Beth rydyn ni’n ei wneud a ble rydyn ni’n mynd

  • Sicrhau bod pob aelod o'r staff yn deall eu swyddogaeth, eu cyfrifoldebau a'u hatebolrwydd ac yn cymryd rhan yn y Cynllun Cyfraniad Effeithiol blynyddol
  • Gwella prosesau Adnoddau Dynol i arbed amser i gydweithwyr ac ymgeiswyr yn y dyfodol
  • Rhoi cyfleoedd i staff ymhob rhan o’r Brifysgol i gael hyfforddiant a datblygiad addas i’w swyddi a sicrhau eu bod yn deall y cyfraniad y maent yn ei wneud i gyflawni amcanion y Brifysgol
  • Gwella deunyddiau denu staff i’w gwneud yn atyniadol i garfanau ehangach o ymgeiswyr safonol am ein holl swyddi
  • Cyflwyno cyfleoedd cyflogaeth lefel graddedigion i fyfyrwyr PA
  • Ymrwymo i gyflawni'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol
  • Dangos ein hymrwymiad i amrywioldeb, cynhwysiant a chyfle cyfartal i bawb trwy barhau i gymryd rhan ym mynegai Stonewall, a cheisio am statws Athena Swan yn ystod 2023
  • Parhau i weithio i leihau'r bwlch cyflog cyfartalog rhwng y rhywiau, gan sicrhau ein bod yn cadw’n is na chyfartaledd sector addysg uwch y DU
  • Parhau i hyrwyddo iechyd a lles staff a myfyrwyr, yn cynnwys bwrw ymlaen â mentrau i leihau llwythi gwaith mewn ymateb i arolwg staff
  • Cadw rheolaeth weithredol ar gyfnodau salwch tymor byr a hir dymor staff a'u cefnogi wrth iddynt ddod yn ôl i'r gwaith.

Llywodraethu

Mae llywodraethu effeithiol, effeithlon ac atebol yn nodwedd o'r Brifysgol. Llywodraethir mewn ffordd foesegol a hyblyg sy'n galluogi, gan sicrhau ar yr un pryd bod dyletswyddau cyfreithiol a statudol yn cael eu cyflawni.

Yr hyn a gyflawnwyd gennym ers 2018

  • Datblygu'r is-strategaethau sy'n sail i'r strategaeth sefydliadol. Cymeradwywyd y rhain gan y Senedd a'r Cyngor ac maent yn y cyfnod gweithredu
  • Cynnal arolwg llywodraethu Advance HE (Addysg Uwch), a dechrau gweithredu'r argymhellion dilynol
  • Recriwtio a phenodi aelodau newydd o'r Cyngor trwy drefn agored i sicrhau prosesau llywodraethu tryloyw ac effeithiol

Beth rydyn ni’n ei wneud a ble rydyn ni’n mynd

  • Symleiddio prosesau cynhwysol gan sicrhau ansawdd a chydymffurfiaeth ar yr un pryd
  • Bod yn atebol i'n cymunedau
  • Sicrhau bod egwyddorion rhyddid academaidd yn cael eu hyrwyddo
  • Cefnogi staff a myfyrwyr
  • Ystyried sut ac ymhle y cynhelir y Llys bob blwyddyn