Llwyfan i’ch Lles

Dydd Iau 23 Medi 2021: 15:30 – 16:30

Dydd Gwener 24 Medi 2021:  10:00 -11:00

Bydd gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn cyflwyno digwyddiad byw lle gallwch ddysgu am Les yn y Brifysgol. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am yr hyn y gwyddom ni ei fod yn gweithio’n dda i fyfyrwyr o ran ymdopi â’u lles, i’ch helpu chi i ffynnu yn ystod eu profiad o’r brifysgol a’r tu hwnt. Byddwn hefyd yn sôn am yr holl ddewisiadau cymorth sydd ar gael i chi fel myfyrwyr i sicrhau y gallwch gael gafael ar y cymorth cywir pryd bynnag y mae ei angen.

Gallwch ymuno â’r digwyddiad wyneb yn wyneb, o bell neu wylio recordiad ohono. Bydd cyfle i gael gofyn cwestiynau i’r tîm yn rhan o’r sesiwn fyw.

Sut mae ymuno â sesiwn:

Er mwyn dod i un o’r sesiynau wyneb-yn-wyneb, rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw gan fod nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. Archebwch eich lle yma.

Archebwch eich lle

Fel arall, er mwyn ymuno â’r sesiwn fyw o bell drwy MS Teams, dilynwch y ddolenni cyswllt isod (does dim angen trefnu ymlaen llaw):

Dydd Iau 23 Medi am 15:30 – 16:30 – Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Dydd Gwener 24 Medi am 10:00 – 11:00 – Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod