Cefnogaeth i Fyfyrwyr mewn Argyfwng ac i Chi

Y nod

Eich bod chi'n cael gwybodaeth ac yn datblygu sgiliau, drwy gyflwyniad PowerPoint a thrafodaeth, i allu ymdrin ag argyfyngau sy'n digwydd, a chynnal ffiniau proffesiynol ar yr un pryd a'i gwneud yn bosib i'r myfyriwr gael manteisio ar y cymorth mwyaf priodol.

Disgrifiad

Bydd y cyflwyniad PowerPoint yn darparu gwybodaeth ynglŷn â:

  • Beth yw argyfwng/trallod?
  • Yr arwyddion a'r rhesymau.
  • Hunan-niwedio
  • Hunanladdiad
  • Eich swyddogaeth chi - cyfathrebu effeithiol, tawelu, atgyfeirio.
  • Gofalu amdanoch chi eich hun

Dylid trafod astudiaethau achos dienw i gefnogi'r hyn a ddysgir, a darperir cyfleoedd i ystyried ac i ymarfer sgiliau.

Archebwch drwy'r dudalen hyfforddiant datblygu staff.