Ymwybyddiaeth Sylfaenol o Iechyd Meddwl

Y nod

Eich bod chi'n cael gwybodaeth a sgiliau, drwy gyflwyniad PowerPoint a thrafodaeth, er mwyn i chi fod yn ymwybodol o unrhyw broblemau Iechyd Meddwl, sut i gyfathrebu'n effeithiol ac yna cyfeirio at y cymorth priodol.

Disgrifiad

Bydd y cyflwyniad PowerPoint yn darparu gwybodaeth ynglŷn â:

  • Deall iechyd meddwl, mythau a stigma
  • Anhwylderau iechyd meddwl - arwyddion
    • Iselder
    • Gorbryder
    • Anhwylder Deubegynol
    • Sgitsoffrenia
    • Anhwylderau Personoliaeth
  • Hunan-niwedio a Hunanladdiad
  • Rheoli sefyllfaoedd anodd, Ymddygiad Ymosodol a Thawelu ac Atal.
  • Cyfathrebu effeithiol, cyfrinachedd, dyletswydd gofal ac opsiynau cymorth

Dylid trafod astudiaethau achos dienw i gefnogi'r hyn a ddysgir, a darperir cyfleoedd i ystyried ac i ymarfer sgiliau.

Archebwch drwy'r dudalen hyfforddiant datblygu staff.